Bryncoch

pentref sy'n awr yn rhan o dref Castell-nedd ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot

Pentref sy'n awr yn rhan o dref Castell-nedd ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Bryncoch.

Bryncoch
Yr ysgol gynradd leol
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenhonddan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.682°N 3.818°W Edit this on Wikidata
Map

Ar un adeg, yma yr oedd pencadlys y Main Colliery Company, oedd yn gyflogwr pwysig yn yr ardal hyd 1928. Roedd y cymwynaswr Howel Gwyn AS, a adeiladodd Neuadd Gwyn, yn byw ym mhlasdy Dyffryn, sydd yn awr wedi ei ddymchwel. Adeiladodd eglwys Sant Matthew ar ei stad yn 1871.

Mae Bryncoch wedi cynyddu'n sylweddol wrth i stadau tai newydd gael eu hadeiladu.