Burgess Meredith

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Cleveland yn 1907

Actor, cyfarwyddwr, sgriptiwr, a chynhyrchydd Americanaidd oedd Oliver Burgess Meredith (16 Tachwedd 19079 Medi 1997).[1]

Burgess Meredith
GanwydOliver Burgess Meredith Edit this on Wikidata
16 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
Cleveland Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 1997 Edit this on Wikidata
o melanoma Edit this on Wikidata
Malibu, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Amherst
  • Hoosac School
  • Cathedral School of St. John the Divine Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr, actor cymeriad, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr theatr, newyddiadurwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
SwyddPresident of Actors Equity Association Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
Taldra163 centimetr Edit this on Wikidata
TadWilliam George Meredith Edit this on Wikidata
MamIda Beth Meredith Edit this on Wikidata
PriodPaulette Goddard, Margaret Perry Edit this on Wikidata
Gwobr/auNational Board of Review Award for Best Supporting Actor, Saturn Award for Best Supporting Actor, Saturn Award for Best Supporting Actor, Medal Ymgyrch America, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Sitges Film Festival Best Actor award Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Cleveland, Ohio. Cychwynnodd ei yrfa fel actor ym 1929 pan ddaeth yn brentis di-dâl gyda Chwmni Sefydlog Dinesig Eva Le Gallienne yn Ninas Efrog Newydd. Ymddangosodd yn gyntaf ar Broadway ym 1933, sefydlodd y New Stage Society ym 1937, ac ym 1938 daeth yn is-lywydd yr undeb Actors' Equity. Roedd Meredith yn gapten yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2]

Cafodd glod am ei ran gyntaf wedi'r rhyfel, gan chwarae gohebydd rhyfel yn y ffilm The Story of GI Joe (1945).[3] Yn y 1950au cafodd ei yrfa ei heffeithio gan McCarthyaeth yn Hollywood. Daeth yn ôl i ffilmiau yn y 1960au gan ymddangos mewn nifer o ffilmiau'r cyfarwyddwr Otto Preminger. Ym 1975 chwaraeodd Joseph Welch yn y ffilm Tail Gunner Joe, oedd yn dramateiddio helynt McCarthyaeth.[1][4]

Ymhlith y ddramâu a gyfarwyddodd Meredith oedd Joyce's Ulysses in Nighttown (1958), gyda Zero Mostel yn rhan Leopold Bloom, A Thurber Carnival (1960), a Blues For Mr Charlie gan James Baldwin (1964).[4] Ymhlith ei rannau enwog ar y sgrin fawr mae Of Mice and Men (1939), Advise & Consent (1962), The Day of the Locust (1975), Rocky (1976), a Grumpy Old Men (1993). Ar deledu, chwaraeodd y Penguin yn y gyfres Batman ac ymddangosodd mewn pedwar pennod o The Twilight Zone, gan gynnwys un o'r penodau enwocaf, "Time Enough at Last".[5] Cyfarwyddodd y ffilm The Man on the Eiffel Tower ym 1949.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, So Far, So Good, ym 1994. Yn y llyfr hwnnw, datgelodd ei fod yn dioddef o seiclothymia, sef ffurf ar anhwylder deubegwn.[6] Bu farw yn 89 oed yn ei gartref ym Malibu, Califfornia, wedi iddo ddioddef o glefyd Alzheimer a melanoma.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gussow, Mel (11 Medi 1997). Burgess Meredith, 89, Who Was at Ease Playing Good Guys and Villains, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  2. (Saesneg) Burgess Meredith. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  3. (Saesneg) Obituary: Burgess Meredith. The Daily Telegraph (12 Medi 1997). Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Vosburgh, Dick (12 Medi 1997). Obituary: Burgess Meredith. The Independent. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  5. (Saesneg) Folkart, Burt A. (11 Medi 1997). Burgess Meredith, Actor's Actor for 70 Years, Dies. Los Angeles Time. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  6. (Saesneg) Burgess Meredith - Cyclothymia Sufferer. about health. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
  7. (Saesneg) Burgess Meredith dies at 89. CNN (10 Medi 1997). Adalwyd ar 18 Medi 2014.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: