Herwr a lleidr Americanaidd ac arweinydd y gang "Hole in the Wall" oedd Butch Cassidy (13 Ebrill 1866 – tua 7 Tachwedd 1908), ei enw genedigol oedd Robert LeRoy Parker.[1]

Butch Cassidy
Ganwyd13 Ebrill 1866 Edit this on Wikidata
Beaver, Utah Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1908 Edit this on Wikidata
Bolifia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethtroseddwr Edit this on Wikidata

Ganwyd Parker yn Beaver, Utah yn fab i Maximillian Parker ac Ann Campbell Gillies, y tad yn Sais a'r fam o'r Alban. Parker oedd y cyntaf o 13 o blant, magwyd ar ransh ei rieni yn Circleville, Utah, 215 milltir (346 km) i'r de o Salt Lake City.

Yn 1896 daeth yn ffrindiau gyda dyn o Bennsylvania, Harry Longabaugh (neu'r Sundance Kid), a ymunodd â gang "Hole in the Wall".

Saethu Llwyd ap Iwan golygu

Ar 29 Rhagfyr 1909 saethwyd Llwyd ap Iwan (sef mab Michael D. Jones) yn farw gan ddau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno. Cred rhai mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys, bellach, eu bont eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1.  What's Up With All These Names?. Bureau of Land Management (18 Ionawr 2008). Adalwyd ar 13 Mehefin 2008.