Bwa (pensaernïaeth)

strwythur crwm fertigol sy'n rhychwantu gofod ac efallai na fydd yn cynnal llwyth

Bwa mewn pensaernïaeth yw'r term a ddefnyddir ar gyfer adeiladwaith sydd yn gallu cymryd pwysau sylweddol uwch ei ben gyda lle gwag oddi tanodd.

Bwa
Mathelfen bensaernïol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pont Rufeinig yn Alcántara, Sbaen.

Ymddangosodd y bwa am y tro cyntaf yn yr ail fileniwn CC, ym Mesopotamia wedi eu hadeiladu o frics. Adeiladwyd hwy hefyd gan y Babiloniaid, mae Porth Ishtar yn enghraifft enwog. Lledaenodd y wybodaeth i Ewrop a chafodd y bwa ei ddefnyddio gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid.

Roedd y bwa Rhufeinig yn hanner crwn gyda nifer anghydrif o friciau neu feini. Trwy hyn gellir cael maen clo yng nghanol y bwa. Dilynwyd hyn gan ddatblygiad y bwa ar ffurf pig, a ddefnyddid mewn pensaernïaeth Islamaidd ac mewn pensaernïaeth Gothig yn Ewrop. Mae'r math yma o fwa yn gryfach na bwa ar hanner cylch. Y ffurf gryfaf ar fwa yw'r bwa parabolig; defnyddiwyd y math yma ar fwa gan y pensaer Antoni Gaudí o Gatalonia.