Bwlch Aberglaslyn

bwlch yng Ngwynedd

Bwlch yng Ngwynedd yw Bwlch Aberglaslyn; yr hen enw oedd Bwlch y Gymwynas neu Y Gymwynas. Mae'n rhan o ddyffryn Afon Glaslyn rhwng Beddgelert a Phorthmadog, lle mae'r dyffryn yn culhau a chreigiau ar y ddwy ochr.

Bwlch Aberglaslyn
Mathffordd, bwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBeddgelert Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9978°N 4.0944°W Edit this on Wikidata
Map
Bwlch Aberglaslyn ac Afon Glaslyn.

Ar ochr orllewiniol yr afon, mae'r briffordd A498, tra ar yr ochr ddwyreiniol mae trac Rheilffordd Eryri, sydd wedi ailagor rhwng Gaernarfon a Phorthmadog.

Cyn adeiladu'r Cob ym Mhorthmadog yn gynnar yn y 19g, roedd y llanw yn cyrraedd hyd at Bont Aberglaslyn, ac roedd y bwlch yn dranwyfa bwysig tua'r arfordir gogleddol, i osgoi hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn.

Llên gwerin golygu

Ceir cyfoeth o lên gwerin yn ymwneud ag ardal y Gymwynas, yn cynnwys hanesion am gi du goruwchnaturiol a welid yn yr ardal, a'r "ladi wen", craig ar ochr ddwyreiniol y bwlch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu