Bwlch a thramwyfa hanesyddol yn nhalaith Arizona, yr Unol Daleithiau, yw Bwlch Apache (Saesneg: Apache Pass). Fe'i enwir ar ôl y pobloedd Apache, a fu'n byw yn yr ardal. Gorwedd y bwlch 5,110 troedfedd rhwng Mynyddoedd Dos Cabezas a'r Mynyddoedd Chiricahua, tua 32 km (20 milltir) i'r de-ddwyrain o dref Willcox.

Bwlch Apache
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolFort Bowie National Historic Site Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolButterfield Overland Mail Edit this on Wikidata
SirCochise County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Uwch y môr1,558 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.1517°N 109.482°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddDos Cabezas Mountains Edit this on Wikidata
Map

Roedd ffynnon groyw Apache Spring, ger y bwlch, yn ffynhonnell dŵr bwysig i deithwyr yn y rhan yma o Arizona. Ar ôl Brwydr Bwlch Apache, rhwng yr Apache dan Cochise a Mangas Coloradas a Byddin yr Unol Daleithiau, codwyd Fort Bowie yn y 1860au i'w hamddiffyn.