Bwlch yn ne-ddwyrain Meirionnydd, Gwynedd, rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy yw Bwlch Oerddrws (neu Bwlch yr Oerddrws). Mae lôn priffordd yr A470 yn ei groesi. Ar ei uchaf mae'n 360 metr (tua 1200 troedfedd) uwchlaw lefel y môr.

Bwlch Oerddrws
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.739248°N 3.792114°W Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

I'r gogledd mae cadwyn hir y ddwy Aran, Aran Fawddwy ac Aran Benllyn, yn ymestyn i gyfeiriad Y Bala a'r Berwyn. I'r de mae'r gadwyn yn parhau i gyfeiriad Corris a Llyn Mwyngil gyda chopaon Cribin Fach, Waun Oer a Mynydd Ceiswyn. O gwmpas y bwlch ei hun ceir llethrau llwm Ochr-y-Bwlch i'r gogledd, sy'n codi i Ben y Bryn Fforchog (660m). I'r de ceir clogwyni Craig y Bwlch dan y Gribin Fach. Mae'n fwlch llydan ac agored iawn ac mae'n hawdd gweld sut y cafodd yr enw 'Oerddrws'. Ceir fferm ychydig filltiroedd i'r de, ar bwys y lôn i Gorris, o'r enw 'Hafoty Oer' yn ogystal.

 
Bwlch Oerddrws
 
Bwlch Oerddrws o Faesglase.

Rhedai'r hen lôn bost o gyfeiriad Dolgellau drwy'r Groes-lwyd a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion (Crossfoxes). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig is i fyny o'r dafarn. Â'r ffordd yn ei blaen heibio ffermdy Gwanas-fawr gan groesi Afon Clywedog a dringo'n syth i'r bwlch ei hun. O'r bwlch mae'r olygfa i'r ddau gyfeiriad, gorllewin a dwyrain, yn odidog pan fo'r tywydd yn braf. Mae'r ffordd yn disgyn yn syth ac yn serth (1:5) i gyfeiriad Dinas Mawddwy a Mallwyd gan ddilyn glannau Afon Cerist i lawr i ymuno ag Afon Dyfi. Camlan yw enw'r llecyn wrth waelod y bwlch ond mae'n annhebygol fod yna unrhyw gysylltiad rhyngddo a safle'r frwydr enwog.

Hanes golygu

Dywedir fod Gwylliaid Cochion Mawddwy yn arfer ymosod ar deithwyr a'u hysbeilio wrth iddynt fynd trwy'r bwlch.

Ym mis Medi 2009, caewyd y ffordd trwy'r bwlch gan dirlithriad, ac arhosodd ar gau bum diwrnod.[1] Teithiodd bws ysgol â phlant ar y ffordd tra'i bod hi ar gau, a achosodd pryderon diogelwch.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "A470: Galw am welliannau". BBC Cymru. 8 Medi 2009. Cyrchwyd 11 Awst 2017.
  2. "Landslip to close road for days" (yn Saesneg). BBC Cymru. 2 Medi 2009. Cyrchwyd 11 Awst 2017. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)(Saesneg)