Bwlch yn y Pyreneau yng Ngwlad y Basg ger y ffîn rhwng Nafarroa Beherea a Nafarroa Garaia (a felly rhwng gwladwriaethau Ffrainc a Sbaen) yw Bwlch Ronsyfál (Basgeg: Ibañeta, Ffrangeg: Col de Roncevaux, Sbaeneg: Puerto de Ibañeta). Saif y bwlch ei hun, ar uchder o 1,057 medr, yn Nafarroa Garaia.

Bwlch Ronsyfal
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
Uwch y môr1,057 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.0197°N 1.3242°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddPyreneau Edit this on Wikidata
Map

Mae'r bwlch yn enwog am Frwydr Ronsyfal ar 15 Awst 778, pan orchfygwyd rhan ôl byddin Siarlymaen gan y Basgiaid. Lladdwyd Rolant, arglwydd Mers Llydaw ac arweinydd y rhan yma o fyddin Siarlymaen, digwyddiad a ysbrydolodd y gerdd La Chanson de Roland. Mae'r Camino de Santiago yn mynd dros y bwlch.