Bwlch Sant Bernard Bach

Lleolir Bwlch Sant Bernard Bach (Ffrangeg: Col du Petit Saint-Bernard, Eidaleg: Colle del Piccolo San Bernardo) yn yr Alpau, ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, sy'n cwrdd ar ben y bwlch, sydd 2188 metr uwchben lefel y môr. Lleolir ochr orllewinol y bwlch yn ardal Savoie, Ffrainc, i'r de o massif Mont Blanc. Ceir hefyd Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch San Bernardino.

Bwlch Sant Bernard Bach
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal Edit this on Wikidata
SirValle d'Aosta, Savoie Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr2,188 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.6803°N 6.8839°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGraian Alps Edit this on Wikidata
Map

Ar y bwlch ceir cylch cerrig sy'n mesur 72 medr (236 troedfedd) ar ei draws. Mae wedi cael ei ddifrodi i ryw raddau gan y ffordd sy'n rhedeg trwyddo a bu maen hir yn ei chanol ar un adeg. Nid yw'r cylch wedi cael ei ddyddio'n fanwl gywir ond mae darnau arian wedi eu canfod o'i amgylch sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Mae'n bosibl mai safle seremonïol y diwylliant Tarentaisiaidd (tua 725 CC–450 CC) oedd hi. Yn ddiweddarach, codwyd teml Rufeinig gerllaw a gysegrwyd i'r duw Iau, ynghyd â mansio Rhufeinig a oedd yn gwasanaethu teithwyr dros y bwlch; credir gan rai i'r cadfridog Carthaginaidd, Hannibal ddefnyddio'r llwybr hwn pan groesodd yr Alpau i ymosod ar Rufain (ond mae eraill yn credu iddo groesi'r Alpau Cotaidd ymhellach i'r de).

Adnewyddwyd y cylch cerrig yn rhannol yn ystod y 19eg ganrif.

Yr esgyniad golygu

O Bourg-Saint-Maurice i'r de-orllewin, mae'r Col du Petit Saint-Bernard yn 26.5 km o hyd. Mae'r esgyniad yn 1,348 m (4,423 troedfedd) o'r ochr hon, â graddfa ar gyfartaledd o 5.1%, a'r darnau mwyaf syrth yn 8.1% ar waelod yr allt. Mae'r 15.5 km (9.6 milltir) cyntaf i La Rossiere yn ffurfio rhiw Montée d'Hauteville.

O Prè-Saint-Didier (yn Nyffryn Aosta, gogledd-orllewin yr Eidal), mae'r Colle del Piccolo San Bernardo yn 23.5 km (14.6 milltir) o hyd o'r ochr hwn. Mae'r esgyniad yn 1,184 m (3,885 troedfedd) â graddfa ar gyfartaledd o 5%.

Tour de France golygu

Croeswyd Bwlch Sant Bernard Bach gan y Tour de France am y tro cyntaf yn 1949 ac mae wedi bod ar lwybr y ras sawl gwaith ers hynny.

Blwyddyn Cymal Categori Arweinydd ar y copa
1949 17 2 Gino Bartali
1959 18 1 Michele Gismondi
1963 17 2 Federico Bahamontes
2009 16 1 Franco Pellizotti

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: