Bwlch y Groes yw'r rhan uchaf o'r ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn yng Ngwynedd. Ar un adeg defnyddid y ffordd yma gan gwmni moduron Austin a Standard Triumph i arbrofi gyda cheir newydd.

Bwlch y Groes
Mathffordd, bwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7958°N 3.6131°W Edit this on Wikidata
Map
Yr olygfa'n edrych tua'r dwyrain o Fwlch y Groes
Bwlch y Groes: yr olygfa i gyfeiriad Dinas Mawddwy.

O ben y bwlch ceir golygfa o ddyffryn Afon Dyfi, Cadair Idris ac Aran Fawddwy. I'r gogledd-ddwyrain mae mynyddoedd Y Berwyn yn ymestyn i gyfeiriad Llangollen.

Mae'r bwlch yn dynodi'r ffin rhwng cantref Penllyn a chwmwd Mawddwy. Mae ffin cwmwd Mochnant hefyd o fewn chwarter milltir i'r bwlch. Efallai fod croes yn sefyll arno i nodi hynny yn yr hen amser, neu fod rhywun wedi codi un yno mewn ysbryd diolchgarwch, ond does dim croes yn sefyll yno heddiw.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato