Bwrdeistref Allerdale

ardal an-fetropolitan yn Cumbria

Ardal an-fetropolitan yng ngogledd-orllewin Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, oedd Bwrdeistref Allerdale (Saesneg: Borough of Allerdale). Roedd yn cynnwys trefi Aspatria, Cockermouth, Harrington, Keswick, Maryport, Silloth, Wigton a Workington. Pencadlys yr awdurdod oedd Workington. Roedd gan yr ardal arwynebedd o 1,242 km², gyda 96,444 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2017.[1]

Bwrdeistref Allerdale
Mathardal an-fetropolitan, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCumbria
PrifddinasWorkington Edit this on Wikidata
Poblogaeth97,527 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,241.6389 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.64°N 3.412°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000026 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Allerdale Borough Council Edit this on Wikidata
Map
Allerdale yn Cumbria

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 pan unwyd Bwrdeistref Dinesig gyda Bwrdeistrefi Maryport, Cockermouth a Keswick; a cynghorau dosbarth Cockermouth a Wigton, a leolwyd cyn hynny oddi fewn i Swydd Cumberland. Yn 1995 fe'i rhoddwyd statws bwrdeistrefol. Fe'i ddiddymwyd ar 1 Ebrill 2023 pan gafodd ei chyfuno â Bwrdeistref Copeland a Dinas Caerliwelydd i greu awdurdod unedol newydd Cumberland.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 21 Medi 2018