Bwrdeistref Fetropolitan Oldham

bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf

Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Oldham (Saesneg: Metropolitan Borough of Oldham).

Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolManceinion Fwyaf
PrifddinasOldham Edit this on Wikidata
Poblogaeth237,628 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd142.345 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr542 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref High Peak Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.54194°N 2.11861°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000004 Edit this on Wikidata
GB-OLD Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolgweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
leader of Oldham Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 142 km², gyda 237,110 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Tameside i'r de, Dinas Manceinion i'r de-orllewin, Swydd Gaer i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd-orllewin, Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain, a Swydd Derby i'r de-ddwyrain.

Bwrdeistref Fetropolitan Oldham ym Manceinion Fwyaf

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn ddau blwyf sifil (Saddleworth a Shaw and Crompton), gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Oldham lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Chadderton, Failsworth, Royton a Shaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020