Bwrdeistref Fetropolitan Wigan

bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf

Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Wigan (Saesneg: Metropolitan Borough of Wigan).

Bwrdeisdref Fetropolitan Wigan
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolManceinion Fwyaf
PrifddinasWigan Edit this on Wikidata
Poblogaeth330,712 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd188.1712 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBwrdeistref Warrington, Bwrdeistref Fetropolitan Bolton, Dinas Salford, Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, Bwrdeistref Chorley, Bwrdeistref Fetropolitan St Helens Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.53°N 2.62°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000010 Edit this on Wikidata
GB-WGN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolexecutive of Wigan Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholcouncil of Wigan Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
leader of Wigan Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 188 km², gyda 328,662 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Bolton a Dinas Salford i'r dwyrain, Swydd Gaer i'r de, Glannau Merswy i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gorllewin ac i'r gogledd.

Bwrdeistref Fetropolitan Wigan ym Manceinion Fwyaf

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn dri phlwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Wigan lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Ashton-in-Makerfield, Atherton, Golborne, Hindley, Ince-in-Makerfield, Leigh, Standish a Tyldesley.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020