Bwrdeistref Harrogate

ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog

Ardal an-fetropolitan a bwrdeistref yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Bwrdeistref Harrogate.

Bwrdeistref Harrogate
Mathardal an-fetropolitan, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd Swydd Efrog
PrifddinasHarrogate Edit this on Wikidata
Poblogaeth160,533 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBagnères-de-Luchon, Harrogate, Tennessee, Dinas Wellington Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,307.9468 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.9903°N 1.5411°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000165 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Harrogate Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 1,308 km², gyda 160,831 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio Ardal Hambleton i’r gogledd-ddwyrain, Dinas Efrog i’r dwyrain, Ardal Selby i’r de-ddwyrain, Gorllewin Swydd Efrog i’r de, Ardal Craven i’r gorllewin, a Richmondshire i’r gogledd-orllewin.

Bwrdeistref Harrogate yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Roedd yn gyfuniad o ardaloedd gwledig Masham a Wath, a rhan o Ardal Gwledig Thirsk, a oedd yn Riding Gogleddol Swydd Efrog, ynghyd â bwrdeistrefi Harrogate a dinas Ripon, ardal trefol Knaresborough, Ardal Gwledig Nidderdale, Ardal Gwledig Ripon a Pateley Bridge, rhannau o Ardal Gwledig Wetherby ac Ardal Gwledig Wharfedale, a oedd i gyd yn Riding Gorllewinol Swydd Efrog. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd y pedwar plwyf Nether Poppleton, Upper Poppleton, Hessay a Rufforth i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.

Mae pencadlys cyngor y fwrdeistref yn nhref Harrogate. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys dinas Ripon a threfi Knaresborough, Boroughbridge, Pateley Bridge a Masham. Mae’r fwrdeistref yn cynnwys dyffryn Nidderdale, yn ogystal â rhannau o Froydd Mowbray ac Efrog.

Safleoedd hanesyddol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 6 Hydref 2020