Bwrdeistref Scarborough

ardal an-fetropolitan Gogledd Swydd Efrog

Ardal an-fetropolitan a bwrdeistref yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Bwrdeistref Scarborough (Saesneg: Borough of Scarborough).

Bwrdeistref Scarborough
Mathardal an-fetropolitan, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd Swydd Efrog
PrifddinasScarborough Edit this on Wikidata
Poblogaeth108,736 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iOsterode Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd816.4871 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.28°N 0.402°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000168 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Scarborough Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 816.5 km², gyda 108,757 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Redcar a Cleveland i’r gogledd, Ardal Hambleton i’r gorllewin, Ardal Ryedale i’r de-orllewin, a’r Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i’r de. Mae ei harfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Fôr y Gogledd.

Bwrdeistref Scarborough yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Scarborough, ond mae’r ardal hefyd yn cynnwys trefi Whitby a Filey, yn ogystal â rhan fawr o arfordir Môr y Gogledd, y rhan isaf o Fro Pickering, a’r dyffryn Eskdale ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 6 Hydref 2020