Bwydo o'r fron

(Ailgyfeiriad o Bwydo ar y fron)

Mae bwydo o'r fron yn digwydd pan fo mam yn bwydo llaeth o'i bronau i'w baban. Wedi i'r babi roi ei geg o amgylch teth y fam, mae'n sugno'r llaeth, fel bwyd. Mae llaeth y fron yn gyffredinol iachach ar gyfer y babi na llaeth fformiwla neu laeth buwch. Nid yw pob merch yn gallu bwydo ei babi'n ddiogel e.e. os oes gan fenyw glefyd neu os yw hi ar gyffuriau (boed cyfreithlon neu anghyfreithlon) gall llaeth y fron niweidio'r baban wrth i'r clefyd neu'r cyffur cael ei drosglwyddo o'r fam i'r babi.

Bwydo o'r fron
Enghraifft o'r canlynolmaethiad Edit this on Wikidata
Mathbwydo babanod, lactation Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Stanisław Wyspiański - Mam yn bwydo

Mae sawl rheswm dros gymeradwyo bwydo o'r fron: gall y baban sy'n bwydo ar laeth ei fam fod ar lai o risg, gan ddioddef llai o glefydau wrth i imiwnedd y fam gael ei drosglwyddo i'r baban. Mae bwyd o'r fron yn gwneud bwydo a gofal iechyd yn rhatach. Mewn gwledydd datblygedig ac yn arbennig mewn gwledydd sy'n datblygu, mae bwydo o'r fron heb roi unrhyw ddiodydd eraill i'r babi, yn arwain at lai o farwolaethau o'r dolur rhydd.

Cytuna'r arbenigwyr mai llaeth y fron yw'r maeth gorau i fabi, ond nid yw pawb yn cytuno am ba hyd y dylai mamau fwydo ar y fron, a pha mor ddiogel yw llaeth powdr masnachol.

Creuwyd ymgyrch fyd-eang yn erbyn cwmni Nestle oedd yn hyrwyddo mamau a chymunedau tlawd iawn i ddefnyddio llaeth powdr (a gynhyrchir gan Nestle) yn hytrach na bwydo o'r fron, sydd am ddim. Er bod y cwmni wedi newid nifer o'i harferion marchnata mae dal amheuaeth ar ei dulliau a moesoldeb gwerthu llaeth powdr i'r fath raddau i wledydd heb sicrwydd o ddŵr glân a lle mae talu am laeth powdr yn wariad sylweddol fel canran incwm y teulu.[1]

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu