Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69)

Byddin neu gorfflu o Wyddelod cenedlaetholgar oedd Byddin Weriniaethol Iwerddon (hefyd: IRA) a gredent yn annibyniaeth Iwerddon gyfan ac a sefydlwyd yn 1922. Gwrthwynebant arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr 1921, a buont yn brwydro yn Rhyfel Cartref Iwerddon ac yna yn erbyn Prydain hyd at 1969.

Byddin Weriniaethol Iwerddon
Irish Republican Army
Óglaigh na hÉireann
Cyfranogwr yn Rhyfel Cartref Iwerddon
a'r Helyntion (the Troubles)
Liam Lynch, Prif Swyddog (Chief of Staff) a fu farw yn Rhyfel Cartref Iwerddon.
Liam Lynch, Prif Swyddog (Chief of Staff) a fu farw yn Rhyfel Cartref Iwerddon.
Yn weithredolMawrth 1922–Rhagfyr 1969
ArweinwyrCyngor Byddin yr IRA
Maes gweithredolIwerddon
Lloegr
Cryfder14,500 (uchafswm)
1,000 (lleiafswm)
Ffurf wreiddiolByddin Weriniaethol Iwerddon (Irish Republican Army)
Newidiwyd ynByddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (Provisional IRA), Byddin Swyddogol Gweriniaeth Iwerddon (Official Irish Republican Army]]
GwrthwynebwyrY Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Rydd Iwerddon
Rhyfeloedd a brwydrauRhyfel Cartref Iwerddon (1922–1923)
IRA Sabotage Campaign (1939–1940)
IRA Northern Campaign (1940–1942)
IRA Border Campaign (1956–1962)
Yr Helyntion (1966–1969)
Ceir sawl byddin sy'n defnyddio'r enw hwn. Mae'r erthygl hon yn ymwneud a'r fyddin gwrth-Gytundeb 1921 a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Iwerddon ac yn erbyn Prydain hyd at 1969.

Sgil effaith arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr ar 6 Rhagfyr 1921 oedd rhannu'r Gwyddelod milwriaethus yn ddwy garfan: 1. 'Fyddin Genedlaethol', a sefydlwyd gan Michael Collins ac a oedd o blaid y Cytundeb a 2. Byddin Weriniaethol Iwerddon a oedd yn erbyn y Cytuneb, gan nad oedd y Cytundeb, yn eu barn nhw, yn ddigon cryf nac yn ddigonol. Annibyniaeth Iwerddon gyfan oedd nod Byddin Weriniaethol Iwerddon. Daeth y ddwy fyddin benben â'i gilydd rhwng 1922 a 1923 yn Rhyfel Cartref Iwerddon.

Enw golygu

Gelwid y Fyddin Weriniaethol hon weithiau'n anti-Treatyites neu gan filwyr Iwerddon Rydd fel Irregulars,[1], ond fel arfer, fel: The Irish Republican Army (IRA) neu mewn Gwyddeleg: Óglaigh na hÉireann.[2][3] Mabwysiadwyd yr enw Óglaigh na hÉireann hefyd gan y Fyddin Genedlaethol fel eu henw nhw ac mae'r term yn parhau yn enw swyddogol, cyfreithiol ar fyddin bresennol Gweriniaeth Iwerddon.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu