Cân i Gymru 2011

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2011 ar 6 Mawrth 2011 o Bafiliwn Pontrhydfendigaid, Pontrhydfendigaid.[1] Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Dafydd Du. Darlledwyd y sioe ar-lein ac yn fyw ar y radio. Gwahoddir enillwr y gystadleuaeth i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Cân i Gymru 2011
Rownd derfynol 6 Mawrth 2011
Lleoliad Pafiliwn Pontrhydfendigaid, Pontrhydfendigaid
Artist buddugol Tesni Jones
Cân fuddugol 'Rhywun yn Rhywle'
Ysgrifenn(wyr) buddugol Steve Balsamo
Ynyr Roberts
Cân i Gymru
◄ 2010        2012 ►

Fformat golygu

Gwahoddodd S4C ac Avanti ysgrifenwyr a chyfansoddwyr caneuon i anfon eu caneuon erbyn y 7 Ionawr 2011.[2] Roedd rhaid i'r caneuon gael eu cyflwyno ar CD neu gasét neu ffeil MP3 gyda ffurflen gystadlu. Roedd y rheolau eraill yn cynnwys:

  • bod rhaid i'r gân fod yn Gymraeg
  • bod rhaid i'r cystadleuwyr fod yn 16 oed o leiaf ar 7 Ionawr 2011
  • bod rhaid i'r gân â'i thelynegion fod yn wreiddiol

Derbyniodd yr ysgrifenwyr/cyfansoddwyr buddogol £7,500 a gwahoddiad i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon. Enilla'r gân yn yr ail safle £2,000.[2]

Cyfranogwyr golygu

Y Rownd Derfynol
O'r Het Perfformwyr Cân Cyfansoddwyr Safle
1 Ifan Emyr Symud Ymlaen
2 Ed Holden Chwarae Ceg Ed Holden
3 Gai Toms Clywch Gai Toms 3ydd
4 Meilyr Wyn
Derwyn Jones
Nerth dy Draed
5 Ffion Emyr Cofia am y Cariad Osian Rhys Roberts 2il
6 Dafydd Saer Cylch o Gariad Dafydd Saer
7 Alys Williams Fy Mhlentyn i Anne Llwyd
Steve Pablo
8 Tesni Jones Rhywun yn Rhywle Steve Balsamo
Ynyr Roberts
1af

Cyfeiriadau golygu

  1. "S4C launches 2011 Cân i Gymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-13. Cyrchwyd 2011-03-08.
  2. 2.0 2.1 Rheolau Cystadleuaeth Cân i Gymru 2011 Gwefan Cân i Gymru