Cŵn goruwchnaturiol yn llên gwerin Cymru a gysylltir ag Annwn, yr Arallfyd Gymreig, yw Cŵn Annwn. Mae'r enwau eraill arnyn nhw yn cynnwys Cŵn Cyrff, Cŵn Wybr, a Cŵn (y) Mamau neu Cŵn Bendith y Mamau (cyfeiria 'Bendith y Mamau' at y Tylwyth Teg).

Yn y chwedl gynnar Branwen ferch Llŷr, y gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, Arawn yw brenin Annwn. Pan ddaw Pwyll ar draws helgwn Arawn yn y chwedl honno fe'u disgrifir fel cŵn o liw gwyn llachar gyda chlustiau coch, ond does dim byd i awgrymu cysylltiad ag angau a'r Isfyd. Mewn chwedlau llên gwerin diweddarach mae Gwyn ap Nudd yn cymryd lle Arawn ac yn arwain Cŵn Annwn ar eu helfa wyllt trwy'r nos i hela eneidiau. Ond ymddengys mai diweddar yw'r traddodiad hwnnw a bod y traddodiad(au) gwreiddiol wedi cael ei Gristioneiddo gan droi Annwn, sy'n Arallfyd paradwysaidd yn y chwedl gynnar, yn ffurf ar yr Uffern Beiblaidd.

Disgrifir Cŵn Annwn yn y traddodiad diweddarach fel cŵn bychain o liw llwyd neu gochaidd a arweinir gan ffigwr du corniog. Ond er bod sawl adroddiad yn pwysleisio eu natur "uffernol", ceir adroddiadau eraill sy'n honni eu bod yn ddiniwed, ond i'w hosgoi os posibl am eu bod yn perthyn i'r Tylwyth Teg.

Ceir traddodiadau cyffelyb am helgwn o'r math ym mytholeg a llên gwerin sawl gwlad arall, er enghraifft y Dip yng Nghatalwnia. Fel arfer mae'r fath creaduriaid yn gysylltiedig â'r Helfa Wyllt.

Cyfeiriadau golygu

  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)