C.P.D. Derwyddon Cefn

Clwb pêl-droed o bentref Cefn Mawr, Wrecsam yw Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn (Saesneg: Cefn Druids Association Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran pêl-droed yng ngogledd Cymru.

C.P.D. Derwyddon Cefn Newi
Enw llawn Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn Newi
Llysenw(au) Y Hynafiaid
Sefydlwyd 1992
Maes Y Graig (The Rock)
Rock Road, Rhosymedre.
LL14 3YG
Cadeirydd Baner Cymru Brian Mackie
Rheolwr Baner Cymru Huw Griffiths
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2022/23 7.

Mae'r clwb yn gallu olrhain eu hanes yn ôl at glwb enwog Y Derwyddon (Saesneg: Druids FC) gafodd ei ffurfio ym 1872 ond mae ffurf presennol y clwb yn deillio o uniad rhwng clybiau Cefn Albion a Druids United ym 1992. Maent wedi codi Cwpan Cymru wyth o weithioau rhwng 1880 a 1904.

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Y Graig, Rhosymedre, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 500 o seddi.

Hanes golygu

Ffurfiwyd clwb Y Derwyddon gan Llewelyn Kenrick, cyfreithiwr o Rhiwabon, ym 1872. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn trefnu gêm ryngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros Gymru[1].

Ym 1876 daeth Y Derwyddon y clwb cyntaf o Gymru i gymryd rhan yng Nghwpan FA Lloegr ond ar ôl dod allan o'r het i herio Shropshire Wanderers, tynnodd y clwb allan o'r gystadleuaeth. Y tymor canlynol, llwyddodd y clwb i gyrraedd y trydydd rownd cyn colli yn erbyn y Royal Engineers[2].

Wedi sefydlu Cwpan Cymru ym 1877-78, llwyddodd Y Derwyddon i gyrraedd y rownd derfynol cyn colli 0-1 yn erbyn Wrecsam a llwyddodd y clwb i gyrraedd saith rownd derfynol yn olynol rhwng 1879 a 1886 gan ennill y tls ar bump achlysur yn ogystal â chyrraedd Rownd yr Wyth Olaf o Gwpan FA Lloegr ym 1882-83 a'r Bedwaredd Rownd ym 1884-85.

Gyda clybiau pêl-droed yn dechrau troi'n broffesiynol, dioddefodd Y Derwyddon yn ariannol ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf unodd Y Derwyddon gyda C.P.D. Rhosymedre er mwyn ffurfio Derwyddon Rhosymedre. Parhaodd eu problemau a cafwyd uniad pellach gydag Acrefair United ym 1923 er mwyn ffurfio Druids United.

Ym 1992 unodd Druids United gyda Cefn Albion er mwyn ffurfio'r clwb presennol, Derwyddon Cefn, ym mhentref Cefn Mawr.

Rhwng 1999 a 2010, oherwydd rhesymau nawdd, mae'r clwb wedi dwyn enwau Flexsys Derwyddon Cefn, NEWI Derwyddon Cefn ac Elements Derwyddon Cefn, ond bellach wedi dychwelyd i ddefnyddio'r enw Derwyddon Cefn.

Record Ewropeaidd golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2012–13 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   MYPA 0–0 0–5 0–5
2018–19 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   FK Trakai 1-1 0-1 1-2

Anrhydeddau golygu

  • Cwpan Cymru
    • Enillwyr: 1879-80, 1880-81, 1881-82, 1884-85, 1885-86, 1898-99, 1903-04
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1877-78, 1882-83, 1883-84, 1899-1900, 2011-12
  • Cwpan Amatur Cymru
    • Enillwyr: 1902-03
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1903-04, 1956-57

Cyfeiriadau golygu

  1. "Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales". Welsh Football Data Archive.
  2. "1877-78 FA Cup". Stato.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-07-15.
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd