C.P.D. Merched Dinas Caerdydd

clwb pêl-droed merched. Nid i'w gymysgu gyda Cardiff City Ladies FC

Tîm pêl-droed menywod yw C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Dyma adran y merched o glwb pêl-droed sefydliedig ac hanesyddol, C.P.D. Dinas Caerdydd. Tra bod tîm y dynion yn chwarae yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Lloegr mae tîm y merched yn chwarae yn system bêl-droed Cymru.

Cardiff City
Enw llawnCardiff City Football Club
LlysenwauThe Bluebirds
MaesStadiwm Chwaraeon Ryngwladol Cymru[1]
(sy'n dal: 4,953 (seated: 2,553; standing: 2,400))
RheolwrJoel Hutton
CynghrairUwch Gynghrair Merched Cymru
2023-241.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Ddim i'w gymysgu â Cardiff City Ladies F.C. sef y clwb ar wahân sydd ddim yn gysylltiedig â chlwb dynion C.P.D. Dinas Caerdydd ac sy'n chwarae yn system byramid Lloegr (ond yn cystadlu yng Nghwpan Pêl-droed Merched Cymru

Enillodd y clwb Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2012-13,[2] a'u cymhwysodd ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA 2013-14. Dechreuodd y tîm yn y rownd ragbrofol gan golli pob un o'i dair gêm.

Hanes golygu

Hyd at dymor 2011–12 roedd y tîm yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Merched De Cymru, lle chwaraeodd timau Uwch Gynghrair y De hefyd.[3] Dim ond pan ehangwyd y gynghrair ar gyfer 2012-13 a aeth y tîm i mewn i'r Uwch Gynghrair ac aethant yn wirioneddol genedlaethol. Yn ei brif dymor cynghrair cyntaf enillodd y tîm y teitl ar wahaniaeth goliau ar ôl curo Merched Wrecsam 5-2.[4]

Un o sylfaenwyr y Clwb oedd Michael Thomas, Cadeirydd y Clwb yn 2019. Nododd bod ei ferch wrth ei bodd gyda phêl-droed ac roedd hi, a nifer o'i chyd-chwaraewyr mewn clwb iau lleol, yn arfer mynd i gwrs addysg/Futsal gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Gofynnodd y merched ar y cwrs i'r hyfforddwr futsal a allen nhw sefydlu tîm 11-bob-ochr ac fe gytunodd. Gan fod gen i brofiad blaenorol o redeg y tîm iau y buodd y merched yn chwarae iddo yn y gorffennol, gofynnodd yr hyfforddwr a fuaswn i'n fodlon helpu gydag ochr weinyddol y tîm. Felly, gyda chymorth un o'r mamau eraill, fe ddechreuon ni'r tîm.[5]

Cynhwyswyd C.P.D.M. Dinas Caerdydd yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[6]

Darlledu Gêm Fyw golygu

Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[7] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[8] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[9]

Torri record torf golygu

Ar nos Fercher 16 Tachwedd 2022, torwyd record torf ar gyfer gêm gynghrair pan ddaeth 5,175 i wylio eu gêm gartref yn erbyn Merched y Fenni. Cynhaliwyd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y toriad ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2022 y dynion.[10]

Carfan gyfredol golygu

Diweddarwyd 21 July 2019.[11]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
  Claire Skinner
  Ceryn Chamberlain
  Emily Griffiths
  Lisa Owen
  Mollie Jones
  Siobhan Walsh (captain)
  Daisy Connolly
  Montana May
  Kanisha-Mae Underdown
  Danielle Broadhurst
Rhif Safle Chwaraewr
  Hannah Daley
  Kelly Bourne
  Zoe Atkins
  Eryn Gibbs
  Monet Legall
  Catherine Walsh
  Lucy McDonough
  Alana Murphy
  Danielle Green

Anrhydeddau golygu

Uwch Gynghrair Merched Cymru
  • Pencampwyr (2): 2012–13, 2022-23
Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
  • Ail: 2014–15

Record yn Ewrop - Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA golygu

Crynodeb golygu

Chwrae Ennill Cyfartal Colli GF GA Tymor diwethaf
3 0 0 3 0 6 2013–14

Fesul Tymor golygu

Tymor Rownd Gwrthwynebwyr Cartref Oddi Cartref Sgôr agrigad
2013–14 Rown rhagbrofol   SFK 2000 0–3[12] 4ydd o 4[13]
  FC NSA Sofia 0–2[14]
  Konak Belediyespor 0–1[15]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cardiff City FC Women Club Information - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
  2. "WOMEN WIN WELSH PREMIER LEAGUE - News - Cardiff City". www.cardiffcityfc.co.uk.
  3. "South Wales Womens Football League - Season Archive". www.leaguewebsite.com.
  4. "Cardiff City Women win Womens Welsh Premier League title". BBC Sport. 19 Mai 2013. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2015.
  5. https://thinkorchard.com/cy/news/the-10-year-league-cardiff-city-women/[dolen marw]
  6. https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934
  7. https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
  8. https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
  9. https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
  10. Cyfrif Twitter yr gynhrair 16 Tachwedd 2022
  11. "Women - Cardiff City". www.cardiffcityfc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2019. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2019.
  12. "Sarajevo-Cardiff - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  13. "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  14. "Cardiff-NSA - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  15. "Konak-Cardiff - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.

Dolenni allanol golygu