C.P.D. Sir Hwlffordd


Clwb pêl-droed o Hwlffordd, Sir Benfro ydy Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd (Saesneg: Haverfordwest County Association Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Cymru (Y De), ail adran pêl-droed yng Nghymru.

C.P.D. Sir Hwlffordd
Enw llawn Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd
Llysenw(au) Yr Adar Gleision
Y Orllewin
Sefydlwyd 1899
Maes Stadiwm Bridge Meadow
2022/23 7.

Ffurfiwyd y clwb yn 1899[1] ac maent yn chwarae ar faes Dôl y Bont.

Hanes golygu

Ffurfwyd y Clwb yn 1899 fel C.P.D. Hwlffordd ond ar ôl blynyddoedd o chwarae yng Nghynghrairt Sir Benfro, newidiwyd enw'r clwb i C.P.D. Athletic Hwlffordd ym 1936 wedi iddynt sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Cymru'r De[1][2].

Cafwyd newid arall i enw'r clwb ym 1956 wrth iddynt fabwysiadu'r enw C.P.D. Sir Hwlffordd ac yn yr un tymor, llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth Cynghrair Cymru'r De am y tro cyntaf yn eu hanes[3]. Llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth ar ddwy achlysur arall, ym 1980-81[4] a 1989-90[5] cyn dod yn un o aelodau gwreiddiol Uwch Gynghrair Cymru ym 1992-93.

Byr iawn oedd eu cyfnod cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol gan i'w maes gael ei brynnu gan archfachnad Safeway. Methodd y clwb a dod o hyd i faes o safon derbyniol i'r Gynghrair tra bo maes newydd yn cael ei adeiladu a bu rhaid iddynt ddisgyn yn ôl i Gynghrair Cymru'r De ar gyfer tymor 1994-95.

Ym 1997, sicrhawyd dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair wrth iddynt orffen ar frig Cynghrair Cymru'r De am y pedwerydd tro yn eu hanes[6].

Bu i chwaraewr Cymru, Simon Davies, gychwyn ei yrfa fel bachgen yn Hwlffordd. Mab o ardal Sir Benfro ydyw.

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2004-05 Cwpan UEFA Rd. Rhag   FH 0–1 1–3 1–4
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19

Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre |


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Haverfordwest County". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-13. Cyrchwyd 2015-05-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh League South 1936-37". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh League South 1956-57". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh League South 1980-81". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh League South 1989-90". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh League South 1996-97". Unknown parameter |published= ignored (help)