C.P.D. Tref Aberdâr

clwb pêl-droed Aberdâr, Cwm Cynon

Mae Tref Aberdâr neu Aberdâr (Saesneg: Aberdare Town FC) yn glwb pêl-droed sy'n chwarae yn Adran Dau Nghynghrair Cymru (Y De). Maent yn chwarae ar Parc Aberaman ger tref Aberdâr.

Tref Aberdâr
Enw llawnAberdare Town Football Club
Sefydlwyd1892
MaesParc Aberaman
(sy'n dal: 3,000)
CadeiryddGarry Williams
CynghrairAdran Dau Cynghrair Cymru (Y De)
2016-17Adran Dau Cynghrair Cymru (Y De), 7fed
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Hanes golygu

Mae gan y clwb hanes hir, anrhydeddus a chymleth.

Sefydlwyd y clwb yn 1892 ac ymunodd gyda'r Southern League (un o brif gynghreiriau Lloegr ar y pryd oedd yn cynnwys nifer o dimau o Gymru) yn 1919. Yn 1920 newidiodd Aberdâr ei henw i Athletig Aberdâr (Aberdare Athledig FC). Cafwyd tân difrifol ar faes y clwb ym mis Tachwedd 1923 a difrodwyr popeth gan gynnwys citiau'r tîm. Yn ôl y sôn, cyfrannodd Casnewydd cit iddynt a dyna ddechrau gwisgo du a melyn gan Aberdâr. yn sgîl Dirwasgiad Fawr yr 1920au gwelodd y clwb amser caled a eilyddwyd hwy yn system Gynghrair Lloegr gan Torquay United yn 1927. Yn sgîl y trafferthion yma penderfynwyd uno gyda'r clwb cyfagos Aberaman (sydd yn yr un cwm, ac nid i'w ddrysu gyda'r Aman yn Sir Gaerfyrddin).

Mae gan y clwb hanes aflwyddiannus o geisio ymuno i greu un tîm gydag Athletig Aberaman.[1]

1926 - ymuno ag Aberdare Athletic, oedd yn Third Division South Lloegr, i greu Aberdare & Aberaman Athletic. Ond cwympodd y tîm allan o Gynghrair Loegr yn 1927 a daeth yr uniad i ben. Dad-gysylltodd Aberaman o'r uniad a dechrau cystadlu fel tîm arwahân unwaith eto. Aeth Aberdâr i ben fel tîm.
Aberaman yn parhau i gystadleu fel tîm tan 1945 yna ail-unwyd Aberdâr ac Aberaman Athletic am yr ail dro. Parhaodd hyn am ddim ond dwy flynedd.
Yn 1947 datgymalwyd yr uniad eto. Aeth Aberaman ei ffordd ei hun. Dyna'r drefn hyd heddiw.
2004 - 2009 - Mabwysiadwyd yr enw ENTO Aberaman Athletic oherwydd nawdd. Daeth y cytundeb i ben ar ddiwedd tymor 2008–09 ac aeth y clwb nôl i'w henw gwreiddiol.
Tymor 2012–13 - mabwysiadodd y clwb yr enw C.P.D. Tref Aberdâr (Aberdare Town F.C.).

Parc Aberaman golygu

Maes cartref y clwb yw Parc Aberaman.[2] Lleolir Parc Aberaman ar Ffordd Caerdydd, rhwng pentrefi Aberaman ac Abercwmboi ger Aberdâr yng Nghwm Cynon, CF44 6HA. Symudwyd o Barc Ynys oedd yng nghanol tref Aberdâr, a bu'n gartref Aberdâr Athletig am gyfnod hir.

Mae gan y maes lif-oleadau, eisteddle pwrpasol 250 sedd a thŷ clwb gyda bar ac adnoddau llogi i'r cyhoedd.

Anrhydeddau golygu

Gan mai dim ond ers 2012-13 mae C.P.D. Tref Aberdâr wedi ei ffurfio ar ei newydd wedd, nodir isod anrhydeddau'r ddau glwb rhiant, Aberdâr ac Aberaman:[3]

Fel Aberdâr Gwreiddiol golygu

1907, 1909, 1912, 1921 - Cynghrair Cymru (Y De) yr hen drefn - Pencampwyr
1904, 1905, 1923 - Cwpan Cymru, Ail
2018 - Cwpan Gilbert Morgan, Enillwyr

Fel Aberaman golygu

2009 - Cynghrair Cymru (Y De) - Pencampwyr
1936 - Cynghrair Cymru (Y De) yr hen drefn - Ail
1903 - Cwpan Cymru - Ail
1994 - Tlws CBDC - Ail
1939 - Cwpan Her Cymru - Ail
1913 - Cwpan Amatur Cymru - Ail

Cyn-chwaraewyr Nodedig golygu

  • Bryn Jones - chwaraewr rhyngwladol i Gymru a werthwyd i Wolves ac yna Arsenal am record o ffî hyd at y dyddiad hwnnw, sef, £14,000.
  • Alf Sherwood - o pentref cyfagos, Abercwmboi, a gynrychiolodd Caerdydd a Chymru. Mae un o gapiau Alf nawr yn y tŷ clwb, yn rhodd gan ei fab, Robert.
  • Jack Smith - cyn chwaraewr i Aberaman ac Aberdâr, aeth ymlaen i fod yn reolwr llawn amser cyntaf erioed West Bromwich Albion yn 1948.[1]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Twydell, Dave (1988). Rejected F.C.: Comprehensive histories of the ex-Football League clubs, Volume 1. D. Twydell. ISBN 0-9513321-0-4.
  • Nodyn:Fchd (cyn-2004, 2009–)
  • Nodyn:Fchd (2004–2009)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 http://www.aberdaretownfc.co.uk/history.htm
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2018-11-26.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-16. Cyrchwyd 2018-11-26.