C.P.D. Tref Cwmbrân

clwb pê-droed, nid yr un un â Cwmbrân Celtic

Mae C.P.D. Tref Cwmbrân neu Cwmbrân Town yn un o brif dimau pêl-droed tref Cwmbrân, Torfaen, Gwent. Maent bellach yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Sir Gwent, sydd yn y bumed haen o system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Buont am gyfnod yn yr 1990au yn un o brif dimau Uwch Gynghrair Cymru pan sefydlwyd hwnnw yn 1992.[1]

Enw llawnCwmbrân Town Association
Football Club
LlysenwauThe Crows, Y Brain
Sefydlwyd1951
MaesStadiwm Cwmbrân
Cwmbrân
(sy'n dal: 10,500 (2,200 sedd))
CadeiryddCymru Gareth Griffiths
RheolwrCymru Nicky Church
CynghrairGwent County League Division One
2017–184ydd (o 16)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Ceir clwb arall arwahân yn y dref, Cwmbrân Celtic, nid yr un tîm ydynt.

Hanes golygu

Ffurfiwyd y clwb yn 1951 gan chwarae yng nghynghrair uchaf sir Fynwy (Monmouthshire Senior League), a chwarae ym Mharc Cwmbrân. Yn 1960 ymunodd y clwb â Cynghriar Cymru (Y De) gan symud i'w maes chwarae cartref yn Stadiwm Cwmbrân yn 1975. Cafwyd cyfnod o esgyn a chodi rhwng adrannau nes iddynt ddod yn drydydd yn y gynghrair yn 1986-87 a bron ennill y teitl yn 1989-90. Yn sgil y llwyddiant yma a seiliau'r clwb, gwahoddwyd Cwmbrân i fod yn un o aelodau sefydlu cynghrair newydd genedlaethol pêl-droed Cymru yn 1992-93, sef Uwch Gynghrair Cymru a adnabwyd ar y pryd fel Cynghrair Konika Cymru ar ôl y noddwyr Konika.

Uwch Gynghrair Cymru ac Ewrop golygu

Daeth ymuno â'r gynghrair newydd â llwyddiant a bri i glwb Cwmbrân.

Yn nhymor 1992-92 enillodd Cwmbrân y Gynghrair newydd yn ei thymor gyntaf gan fod pump pwynt yn glir o'r ail safle, Inter Caerdydd, ac ildio dim ond 22 gôl a cholli ond tair gêm (i gyd yn 1-0). Yn 1993-94, yn sgîl ennill y Gynghrair, bu'r tîm yn cystadlu yn y UEFA Champions League gan gystadlu yn erbyn Cork City F.C. o'r Iwerddon. Er i Gwmbrân ennill y gêm gyntaf 3-2 (ar ôl bod 3-0 ar un adeg) ac er iddynt sgorio'r gôl gyntaf yn y gêm yn yr Iwerddon, gollon nhw 1-2 a gan hynny beidio mynd drwyodd i'r ail-rownd. Cafwyd wedyn gemau yn 1998 yn erbyn FC Național București o Rwmania ac yn 1999 - chwarae yn Ewrop yn erbyn Celtic o'r Alban. Roedd gêm gystadleuol olaf y clwb yn Ewrop yn 2003–04 gan golli 6–0 ar agretate i Maccabi Haifa F.C. o Israel, gan chwarae y gêm oddi cartref yn İzmir, Twrci.

Mae'r clwb wedi chwarae sawl gwaith yn ffeinal Cwpan Cymru ond byth wedi ennill.

1995-96 - Ffeinal Cwpan Cymru, colli 2-1 i C.P.D. Tref Y Barri
1999–2000 - Ffeinal, colli i Dinas Bangor
2002–03 - colli eto i'r Barri gyda chiciau o'r smotyn.

Trafferthion y Clwb o 2004 Ymlaen golygu

O 2003-04 ymlaen dechreuwyd gweld trafferthion yn y Clwb ar y gau ac yn ariannol oddi arno. Penllanw hyn oedd i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd tymor 2006-07 am y tro cyntaf yn ei hanes gan chwarae y tymor nesa nôl yn Cynghrair Cymru (Y De) (y Welsh League). Ond gan orffen yn yr 17fed safle fe ddisgynon nhw eto wedi iddynt golli 5-1 yn erbyn C.P.D. Llanelli ar 20 Ebrill.

Roedd hefyd cwmwl ariannol dros y Clwb pan ddaeth yn amlwg ym mis Tachwedd 2006 nad oedd chwaraewyr yn cael eu talu. Er i'r clwb wadu hyn i gychwyn, cadarnhawyd y si ar 30 Tachwedd.[2] Gadawodd nifer o'r prif chwaraewyr. Cynigiodd C.P.D. Casnewydd (Newport County) chwarae gêm gyfeillgar gyda'r holl elw yn mynd tuag at y Clwb.[3]

Ar ddiwedd tymor 2007-08 disgynodd y clwb o Adran 1 Cynghrair Cymru (Y De) i Adran 2. Ar ddiwedd tymor nesa, 2008-09, cwympo nhw eto allan o Adran 2 i Adran 3. Ar ddiwedd tymor 2010-11 cwympodd y clwb unwaith eto y tro yma allan o system Cynghrair Cymru (Y De) ac i mewn i Adran 1 Cynghrair Sir Gwent. Gorffennodd y clwb yn y 4ydd safle yn 2017-18 gan dal i obeithio am ddyrchafiad i system Cynghrair Cymru (Y De).

Record Domestig golygu

  • Cynghrair Cymru (Uwch Gynghrair Cymru, bellach) enillwyr cyntaf 1992–93
  • Cwpan Cymru Ail: 1997, 2000, 2003
  • Cwpan Cynghrair Cymru Ail: 2001
  • Cynghrair Cymru (Y De) Adran 2 Pencampwyr: 1967–68
  • Office Interiors Welsh League Cup Enillwyr: 1990–91
  • Cwpan Hŷn Gwent (Gwent Senior Cup) Enillwyr: 1994–95, 1995–96, 2005–06
  • Cwpan Her Sir Fynwy (Monmouthshire Challenge Cup) Enillwyr: 1954–55, 1955–56

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Gwrthwynebwyr Cymal Cartref Cymal Oddi cartref Cyfanswm Sgôr
1993–94 UEFA Champions League Rownd Rhagbrofol 1   Cork City 3–2 1–2 4–4
1997–98 UEFA Cup Winners' Cup Rownd Rhagbrofol 1   National Bucureşti 2–5 0–7 2–12
1999–2000 Cwpan UEFA Rownd Rhagbrofol 1   Celtic 0–6 0–4 0–10
2000 UEFA Intertoto Cup Rownd Rhagbrofol 1   Nistru Otaci 0–1 0–1 0–2
2001–02 Cwpan UEFA Rownd Rhagbrofol 1   Slovan Bratislava 0–4 0–1 0–5
2003–04 Cwpan UEFA Rownd Rhagbrofol 1   Maccabi Haifa 0–3 0–3 0–6

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.s4c.cymru/cy/ffeithiol/stori-pl-droed-cymru/post/2361/uwch-gynghrair-cymru/[dolen marw]
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 2018-10-25.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 2018-10-25.

Dolenni allanol golygu