Caban F'ewyrth Twm

Mae Caban F'ewyrth Twm (Teitl gwreiddiol Saesneg: Uncle Tom's Cabin; neu, Life Among the Lowly) yn nofel gan yr awdures Americanaidd Harriet Beecher Stowe a gyhoeddwyd yn 1852. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar gaethwasiaeth, a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir iddi fod yn allweddol wrth greu'r agweddau a arweiniodd at Ryfel Cartref America. Dywedir i Abraham Lincoln, pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma".

Caban F'ewyrth Twm
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurHarriet Beecher Stowe Edit this on Wikidata
CyhoeddwrThe National Era Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi20 Mawrth 1852 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1852 Edit this on Wikidata
Genrenaratif Edit this on Wikidata
Olynwyd ganA Key to Uncle Tom's Cabin Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiBoston Edit this on Wikidata
Prif bwnccaethwasiaeth yn Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ98837536, Q98837538 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y Fersiwn Cymraeg, argraffiad cynnar

Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant Josiah Henson, cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i Ganada yn 1830. Bu Stowe hefyd yn siarad â chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision wrth gasglu deunydd ar gyfer y llyfr.

Gwerthwyd mwy o gopiau o Uncle Tom's Cabin nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y 19g ac eithrio'r Beibl. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.

Addasiad Cymraeg golygu

Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl Caban F'ewyrth Twm, yn 1853. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees (Gwilym Hiraethog) wedi ymddangos fel penodau wythnosol yn Y Faner, papur newydd Rhyddfrydol Thomas Gee: fe'i cyhoeddwyd fel Aelwyd F'Ewythr Robert ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu yng ngogledd Cymru yn darllen Caban F'Ewythr Twm (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun Radicaliaeth Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner 19g. Cyhoeddwyd talfyriad Cymraeg tua'r un adeg gan Thomas Levi.

Defnydd Iaith golygu

Ceir trafodaeth ar y defnydd o'r iaith yn y cyfieithiadau Cymraeg lle ceisir dangos y diglossia rhwng iaith y siaradwyr Gwyn ac iaith y caethweision. Cyhoeddwyd papur ar y gwahanol cywair iaith gan David Willis yn 2016.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Raymond B. Davies "Caban f'ewyrth Twm", Y Casglwr 68 (2000), tt. 6-7.
  • E. Wyn James, ‘Caethwasanaeth a’r Beirdd, 1790-1840’ Archifwyd 2011-08-06 yn y Peiriant Wayback., Taliesin 119 (2003), tt.37-60. ISSN 0049-2884.
  • E. Wyn James, '‘Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America’[1] Darlith ar gyfer modiwl gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Ryfel Cartref America.

Cyfeiriadau golygu