Mewn systemau electronig a chyfrifiadura, mae cadarnwedd (Saesneg: firmware) yn fath penodol o feddalwedd sy'n darparu rheolaeth lefel-isel ar gyfer caledwedd y ddyfais. Gall cadarnwedd naill ai ddarparu amgylchedd gweithredu safonol ar gyfer meddalwedd mwy cymhleth y ddyfais, neu ar gyfer dyfeisiau llai cymhleth, gall y cadarnwedd gyflawni swydd system weithredu'r ddyfais, gan reoli, monitro a thrin data. Mae bron pob dyfais electronig y tu hwnt i'r symlaf yn cynnwys peth.

Cadarnwedd
Enghraifft o'r canlynolmath o feddalwedd Edit this on Wikidata
Mathmeddalwedd, caledwedd Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancaledwedd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganassembler Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymhlith yr enghreifftiau nodweddiadol o ddyfeisiau sy'n cynnwys cadarnwedd mae:

Gosodir cadarnwedd mewn llawer o ddyfeisiadau pob-dydd ee y zapyr hwn.

Lleolir y cadarnwedd, fel arfer, ar ddyfais storio, neu gof ROM, neu ers y 2010au ar y fflachgof. Hyd at y 2010au, unwaith yn unig y llwythid y cadarnwedd ar ROM y teclyn. Dim ond yn araf y gellid newid y data a storiwyd yn y ROM, a hynny gyda chryn anhawster neu ddim o gwbl. Er enghraifft, mae BIOS y cyfrifiadur, fel arefr, wedi'i roi yn y ROM, a dim ond yn achlysurol iawn y caiff ei uwchraddio.[2]

Bathwyd y term firmware gan Ascher Opler a hynny yn 1967.[3]

Flachio golygu

Prif: Fflachgof

Fflachio yw'r weithred o drosysgrifo'r cadarnwedd neu ddata, a leolir yn yr EPROM neu fodiwlau'r fflachgof - o fewn dyfais electronig, gyda data newydd.[4] Gwneir hyn er mwyn uwchraddio'r ddyfais[5] Er enghraifft, gellir newid y gwasanaethwr neu ddarparwr y ffôn, drwy'r broses o fflachio. I wneud hyn, defnyddir rhaglen gyfrifiadurol syml gan y darparwr.

Yr hawddaf yw hi i fflachio, y mwyaf tebygol yw hi i haciwr dorri i mewn i'r system a chymeryd drosodd y ddyfais. Lle mae bywyd yn y fantol, e.e. 'cyfrifiadur' y car - mae'n hanfodol mai dim ond gwneuthurwr y car all uwchraddio cadarnwedd y car.

Hacio'r cadarnwedd golygu

Yn 2015 darganfu Kaspersky Lab fod grwp o'r enw "the Equation Group" wedi addasu disgiau caled sawl cwmni rhyngwladol, gan osod yn ddiarwybod i'r cwmniau (hyd y gwyddus) eu bod wedi gosod ceffyl Trojan ar rannau o'r ddisg na chant eu dileu pan gaiff y ddisg ei fformadu, neu pan fo'r data'n cael ei ddileu.[6] Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf iawn mai'r National Security Agency (NSA) Unol Daleithiau America oedd yn gyfrifol am yr ymdrech yma i ysbio ar wybodaeth ar ddisgiau caled llywodraethau a chwmniau'r byd.[7][8] Yn ôl Kaspersky Lab, dyma'r achos waethaf o hacio a fu erioed, gyda dros 500 o ddyfeisiadau wedi'u hacio mewn 42 gwlad.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ciena – Acronym Guide". ciena.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2016. Cyrchwyd 6 Chwefror 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "What is firmware?". incepator.pinzaru.ro. Missing or empty |url= (help); |access-date= requires |url= (help)
  3. Opler, Ascher (Ionawr 1967). "Fourth-Generation Software". Datamation 13 (1): 22–24. https://archive.org/details/sim_datamation_1967-01_13_1/page/22.
  4. "Flashing Firmware". Tech-Faq.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2011. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "HTC Developer Center". HTC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ebrill 2011. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2011.
  6. "Equation Group: The Crown Creator of Cyber-Espionage". Kaspersky Lab. February 16, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Dan Goodin (February 2015). "How "omnipotent" hackers tied to NSA hid for 14 years—and were found at last". Ars Technica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Breaking: Kaspersky Exposes NSA's Worldwide, Backdoor Hacking of Virtually All Hard-Drive Firmware". Daily Kos. February 17, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)