Caer

dinas yn Swydd Gaer, Lloegr

Dinas yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a chanolfan weinyddol (tref sirol) y sir yw Caer (Saesneg: Chester).[1] Mae hi ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn agos iawn i ffin Cymru. Mae'r ddinas yn cael ei alw'n Caerlleon neu Caerlleon Gawr, mewn rhai testunau Cymraeg.

Caer
Mathdinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Swydd Gaer a Chaer
Poblogaeth87,507 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 79 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLörrach, Senigallia, Lakewood, Colorado Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd23.6 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEaton and Eccleston, Great Boughton, Huntington, Dodleston, Guilden Sutton, Mickle Trafford and District, Mollington, Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2°N 2.88°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ405665 Edit this on Wikidata
Cod postCH1-4 Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am ystyron eraill, gweler Caer (gwahaniaethu)

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caer boblogaeth o 86,011.[2]

Mae muriau'r ddinas ymysg y gorau ym Mhrydain a cheir nifer o dai hynafol o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid yng nghanol y ddinas. Ers blynyddoedd mae Caer yn enwog am ei chae rasys ceffylau, ar gyrion y dref.

Siopau yng Nghaer (2009)
Y bont ar Afon Dyfrdwy a rhan o furiau Caer

Hanes golygu

Mae'r ddinas wedi tyfu o gwmpas safle'r hen gaer Rufeinig Deva. Roedd hi'n ganolfan bwysig i lengfilwyr Rhufain, a dangosir hyn yn yr hen enw ar y dre - 'Caerllïon Fawr ar Ddyfrdwy' - a oedd yn gartref am gyfnod hir i'r lleng Legio XX Valeria Victrix. Mae rhai yn credu, oni bai am ddirywiad a chwymp yr ymerodraeth Rufeinig, y gallai Caer fynd yn brifddinas y Brydain Rufeinig ac yn ganolfan i'r Rhufeiniaid fentro dros y môr i Iwerddon.

Ar ôl ymadawiad byddinoedd Rhufain, mae'n debyg i Gaer ddod yn rhan o deyrnas Powys, ond roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn dod yn nes. Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 rhwng lluoedd y Brythoniaid a lluoedd Æthelfrith, brenin Deira (wedyn Northumbria). Aeth y fuddugoliaeth i'r Saeson, ac o hynny ymlaen hwy oedd yn oruchaf yn yr ardal.

Cipiwyd Caer gan y Normaniaid yn yr 11g a chreuwyd Iarllaeth Caer ganddynt, un o'r bwysicaf o arglwyddiaethau Normanaidd y Mers. Treuliodd Gruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, gyfnod o rai blynyddoedd mewn carchar yn y castell Normanaidd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaer ar ddiwedd ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol bu Caer yn ganolfan filwrol i'r Saeson yn eu hymosodiadau ar Gymru. Roedd gan y dref hanes hir o wrthgymreictod.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Amgueddfa Grosvenor
  • Castell
  • Eglwys gadeiriol
  • Neuadd y dref
  • Tafarn y Falcon

Enwogion golygu

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 7 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 7 Medi 2020

Dolenni allanol golygu