Caer Gybi (caer)

wal mynwent rhestredig Gradd I yng Nghymuned Caergybi

Roedd Caer Gybi yn gaer Rufeinig sydd yn awr yng nghanol tref Caergybi, sy'n cymryd ei henw o'r gaer.

Caer Gybi (caer)
Caer Gybi: rhan o furiau'r gaer
Mathcastellum, castell, wal mynwent eglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaergybi Edit this on Wikidata
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3114°N 4.63278°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2469682619 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN031 Edit this on Wikidata

Disgrifiad a hanes golygu

Mae'r gaer ar lechwedd creigiog uwchben y môr, gyda muriau ar dair ochr a'r traeth ar y bedwaredd ochr, yn ffurfio hirsgwar 75 medr wrth 45 medr. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y 3g neu ddechrau'r 4g. Credir bod y gaer yma at ddefnydd y llynges Rufeinig.[1]

 
Caer Gybi: tu mewn i'r gaer

Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu clas (mynachlog). Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau yn dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr.[1]

Cadwraeth golygu

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: AN031.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Frances Lynch, A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995).
  2. Cofrestr Cadw.


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis