Caerau Rhufeinig (unigol: Caer Rufeinig) yw'r term Cymraeg am y gwersylloedd amddiffynnol a elwir yn Castra (unigol: castrum) yn Lladin.

Caer Rufeinig
Enghraifft o'r canlynolheneb, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
MathRoman fortification, gwersyll milwrol Edit this on Wikidata
Enw brodorolcastrum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ceir sawl math o gaerau Rhufeinig: rhai parhaol, rhai a ddefnyddid yn yr haf yn unig a rhai dros dro. Gallai'r maint hefyd amrywio'n fawr, o gaer ar gyfer Lleng Rufeinig gyfan, er enghraifft Caerllion, i gaer ar gyfer nifer fychan o filwyr cynorthwyol. Gallent fod wedi eu hadeiladu o gerrig neu o goed gyda chloddiau pridd. Er hynny, roedd y cynllun sylfaenol yr un fath ym mhob un ohonynt (gweler y diagram). Roedd y gaer yn betrual, gyda chorneli crwm, tebyg i ffurf cerdyn chwarae. Tu mewn i'r muriau, roedd dwy brif ffordd: y via principalis a'r via praetoria yn cyfarfod yn y canol. Yma y ceid y praetorium, lle roedd yr adeiladau neu bebyll i lywodraethwyr y gaer.

Mae "Caer" yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. Caerdydd, Caernarfon.

Mediobogdum, Cumbria

Gweler hefyd golygu