Caer Rufeinig Brynbuga

caer Rufeinig yng Nghymru

Saif olion Caer Rufeinig Brynbuga (Lladin: Burrium) tu allan i dref Brynbuga; cyfeiriad grid SO379006.

Caer Rufeinig Brynbuga
Mathcaer Rufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.700221°N 2.899177°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM155 Edit this on Wikidata

Adeiladwyd y gaer gyntafr yma tua 55 OC., fel rhan o ymgyrch y Rhufeiniaid yn erbyn y Silwriaid. Cyfeiria'r hanesydd Tacitus at adeiladu car yn nhiriogaeth y Silwriaid, ac mae'n bur debyg mai at Burrium yr oedd yn cyfeirio. Cafwyd hyd i'r gaer pan gloddiwyd y safle yn 1877-78, er mai dim ond yn 1965 y cafwyd hyd i'r cyfan. Roedd y gaer yn un fawr, gydag arwynebedd o dros 48 acer. Roedd baddondy ar y safle, ac ysguboriau a allai ddal grawn i dros 2,000 o filwyr. Cafwyd hyd i ddarnau arian o fathiad yr ymerodron Claudius a Nero, a disg bychan gydag arwydd y baedd, symbol y lleng Legio XX Valeria Victrix.

Tua ugain mlynedd yn ddiweddarach, gadawodd y garsiwn y gaer, efallai am fod y safle yn un lle ceid llifogydd, ac adeiladwyd caer newydd yng Nghaerllion.

Cadw golygu

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: MM155.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • S. Symons, Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)

Cyfeiriadau golygu


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis