Caerferwig

tref yn Northumberland

Tref a phlwyf sifil yn Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Caerferwig (Saesneg: Berwick-upon-Tweed).[1] Saif ger aber Afon Tuedd 2.5 milltir (4 km) i'r de o'r ffîn rhwng Lloegr a'r Alban. Hi yw'r dref fwyaf gogleddol Lloegr.

Caerferwig
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
City of Casey, Haan, Sarpsborg, Berwick, Pennsylvania, Trzcianka Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNorthumberland
(sir seremonïol ac awdurdod unedol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tuedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.7692°N 2.0025°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04010744 Edit this on Wikidata
Cod OSNT995525 Edit this on Wikidata
Cod postTD15 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 12,043.[2]

Mae Caerdydd 482.8 km i ffwrdd o Caerferwig ac mae Llundain yn 489.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 75 km i ffwrdd.

Bu llawer o ymladd rhwng yr Alban a Lloegr o'r 11g ymlaen ynghych Caerferwig, a bu'n rhan o'r ddwy wlad ar brydiau. Wedi i Edward I, brenin Lloegr gipio'r dref yn 1296, lladdodd nifer fawr o'r trigolion. Mae wedi bod yn rhan o Loegr ers 1482.

Erys nifer o gysylltiadau a'r Alban, er enghraifft mae timau peldroed a rygbi'r undeb y dref yn chwarae yng nghyngrair yr Alban yn hytrach na Lloegr. Roedd Deddf Cymru a Berwick 1746 yn datgan fod unrhyw gyfeiriad at "Lloegr" yn cynnwys Cymru a Chaerferwig.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 19 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 19 Gorffennaf 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Northumberland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato