Caethwasiaeth ac Islam

Nid yw caethwasiaeth ynddo'i hun yn groes i ddysgeidiaeth Islam, ond mae'r Corân, yr hadith, ac ysgolheictod Islamaidd fel rheol yn cyfyngu ar yr arfer hon. Ceir corff cymhleth o safbwyntiau ar y pwnc gan feddylwyr Islamaidd[1][2] sydd yn amrywio yn ôl grŵp, mudiad, gwlad, ac oes.[3] Bu caethwasiaeth yn rhan o fywyd Arabia yn y cyfnod cyn-Islamaidd, yn bennaf o ganlyniad i ryfel.[1][4] Ni cheisiai'r Corân (datguddiad Allah) na'r hadith (dywediadau'r Proffwyd Muhammad) wahardd caethwasiaeth a chafodd parhad yr arfer ei gymryd yn ganiataol gan Muhammad a'i ddilynwyr.[4][5] Yn ôl dogma Islamaidd gynnar, gwaherddir caethiwo'r rhai sydd yn aelodau rhydd o gymdeithas Islamaidd, gan gynnwys yr an-Fwslimiaid (dhimmi) a ddiogelsant dan drefn sharia, a gosodir rheolau i wella amodau'r caethweision. Yn ôl sharia, dim ond an-Fwslimiaid a gawsant eu cipio neu eu prynu y tu hwnt i ffiniau'r tiroedd Islamaidd, neu feibion a merched y rhai a oedd yn gaethweision yn barod, sydd yn gyfreithlon gaethweision.[4] Trafodir pwnc caethwasiaeth yn eang gan gyfreithegwyr Islamaidd clasurol.[3] O ran materion crefyddol, cafodd caethweision, boed yn Fwslimiaid neu o ffydd arall, eu hystyried yn gydradd â'u cyd-addolwyr.[6] Nid yw cyfreitheg Islamaidd yn sôn am elfen hiliol neu ethnig yn y drefn hon, ond mewn gwirionedd byddai'r mwyafrif o gaethweision yn tarddu o bobloedd wahanol i'r rhai a oedd yn berchen arnynt.[7]

Caethwasiaeth ac Islam
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn hanesyddol, bu'r mwyafrif o gaethweision yn y byd Mwslimaidd naill ai yn weision a morwynion y tŷ neu yn filwyr, mewn cyferbyniad â chaethwasiaeth yn y Byd Newydd a oedd yn seiliedig ar economi'r planhigfeydd. Bu eraill yn gweithio fel dyfrhawyr, cloddwyr, neu bugeiliaid. Brwydrodd y milwyr ar orchymyn y califf neu'r swltan, a phenodwyd rhai ohonynt i swyddi uchel yn y llywodraeth a'r weinyddiaeth. Tyfodd y byddinoedd o gaethweision nes iddynt wrthryfela a sefydlu tiriogaethau neu lywodraethau a oedd yn annibynnol ar yr hen galiffiaid a swltaniaid.[8] Rhoddir yr enw Mamlwciaid ar y caeth-filwyr a ddatblygodd yn ddosbarth rhyfelgar pwerus, a sefydlwyd sawl ymerodraeth a brenhinlin ganddynt, gan gynnwys y Ghaznavid (977–1186) a'r Khwarezmid (1077–1231) ym Mhersia a swltanaethau yng ngogledd yr India (1206–90), yn yr Aifft a'r Lefant (1250–1517), ac yn Irac (1704–1831). Weithiau byddent yn gwrthryfela o ganlyniad i gam-driniaeth, er enghraifft Gwrthryfel Zanj (869–883).[9]

Darluniad o farchnad gaethweision yn Khartoum yn y 1870au.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, gweithwyr rhydd yn derbyn tâl oedd yn cyfri am y rhan fwyaf o'r llafurlu ar draws y byd Mwslimaidd.[10] Serch hynny, roedd caethwasiaeth yn rhan bwysig o fywyd economaidd a chymdeithasol ac nid oedd twf fewnol y boblogaeth o gaethweision yn ddigonol i gyflawni'r galw amdanynt. Er gwaethaf ymdrechion y testunau sanctaidd i gyfyngu ar gaethwasiaeth – neu yn bosib o'r herwydd y rheoliadau a ganiatâi'r arfer – tyfodd y fasnach gaethweision Arabaidd yn un o brif fasnachau y byd, a barodd o gyfnod Muhammad hyd at ganol yr 20g.[11] Ymledodd marchnadoedd caethweision i gyrion y byd Mwslimaidd, ar draws Gorllewin Asia, Gogledd Affrica, a De Ddwyrain Affrica, a chafodd ryw 17 miliwn o gaethweision eu hallforio i borthladdoedd Cefnfor India, y Dwyrain Canol, a Gogledd Affrica.[12] Yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd a diddymu'r galiffiaeth ym 1924, cafodd caethwasiaeth ei gwahardd mewn gwledydd a threfedigaethau Mwslimaidd, yn bennaf dan bwysau llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.[5] Daeth caethwasiaeth gyfreithlon i ben yn Sawdi Arabia ac Iemen ym 1962 ac yn Oman ym 1970, a gwnaed sawl ymdrech i ddiddymu'r arfer ym Mawritania yn 1905, 1981, a 2007.[13] Nid yw caethwasiaeth yn gyfreithlon yn yr un wlad yn yr 21g, ond er hynny mae'r arfer yn parhau o hyd, gan gaethfeistri a chaethfasnachwyr sydd yn hawlio awdurdod y Corân, mewn sawl gwlad Fwslimaidd, gan gynnwys Mawritania, Tsiad, Niger, Mali, a Swdan.[14][15]

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Brockopp, Jonathan E., “Slaves and Slavery”, in: Encyclopaedia of the Qurʾān, General Editor: Jane Dammen McAuliffe, Georgetown University, Washington DC.
  2. Brunschvig, R., “ʿAbd”, in: Encyclopaedia of Islam, Second Edition, Edited by: P. Bearman, Th. Bianquis, C.E. Bosworth, E. van Donzel, W.P. Heinrichs.
  3. 3.0 3.1 Lewis 1994, Ch.1 Archifwyd 2001-04-01 yn y Peiriant Wayback.
  4. 4.0 4.1 4.2 Dror Ze’evi (2009). "Slavery". In John L. Esposito (gol.). The Oxford Encyclopedia of the Islamic World. Oxford: Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-23. Cyrchwyd 2017-02-23.
  5. 5.0 5.1 Brunschvig. 'Abd; Encyclopedia of Islam
  6. See: Martin (2005), pp.150 and 151; Clarence-Smith (2006), p.2
  7. Bernard Lewis, Race and Color in Islam, Harper and Row, 1970, quote on page 38.
  8. Behrens-Abouseif, Doris. Cairo of the Mamluks: A History of Architecture and Its Culture. New York: Macmillan, 2008.
  9. Clarence-Smith (2006), pp.2-5
  10. William D. Phillips (1985). Slavery from Roman times to the early transatlantic trade. Manchester University Press. t. 76. ISBN 0-7190-1825-0.
  11. Lewis 1990, page 10
  12. "BBC News | AFRICA | Focus on the slave trade". May 25, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 25, 2017. Cyrchwyd July 21, 2019.
  13. Martin A. Klein (2002), Historical Dictionary of Slavery and Abolition, Page xxii, ISBN 0810841029
  14. Ronald Segal, Islam's Black Slaves: The Other Black Diaspora (Efrog Newydd: Farrar, Straus and Giroux, 2001), t. 206.
  15. Segal, Islam's Black Slaves (2001), t. 222.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ronald Segal, Islam's Black Slaves: The Other Black Diaspora (Efrog Newydd: Farrar, Straus and Giroux, 2001).