Grŵp gwerin traddodiadol ydy Calan a ffurfiwyd ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2006. Ystyr y gair "Calan" ydy 'diwrnod cynta'r mis' (e.e. Calan Mai) neu'r flwyddyn (Dydd Calan). Yn 2015 perfformiodd y band yn yr Albert Hall, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Bryn Terfel. Ers hynny, maen nhw wedi chwarae mewn gwyliau yng Nghaergrawnt, yr Amwythig, a Fairport's Cropredy Convention yn ogystal â theithiau i'r Eidal, Gwlad Belg a Ffrainc.

Y grŵp yng Ngŵyl Tegeingl, 2012
Angharad Sian
Bethan Rhiannon
Sam Humphreys
Patrick Rimes

Yn 2008, mewn adolygiad yn y Belfast Telegraph, dywedodd Nigel Gould fod eu halbwm cyntaf yn cynnwys popeth mae'r gwrandawr ei angen: "defnydd arbennig o offerynnau, caneuon rhagorol, dawnsio syfrdanol - a chynnwr trydanol."[1][2] Yr un flwyddyn cafwyd beirniadaeth adeiladol iawn hefyd gan Gavin Martin yn y Mirror (y "chwarae'n osgeiddig" a'r dewis o ganeuon yn siwr o gario'r dydd".[3][4]

Aelodau golygu

Cyn-aelod golygu

Disgograffi golygu

  • 2008: Bling - Recordiau Sain
  • 2012: Jonah - Recordiau Sain

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfieithwyd o: "The dynamic quintet’s debut album, Bling, has everything you could want from a record — stunning use of instrumentation, gorgeously crafted songs, sprightly foot-tappers, verve and raw excitement."
  2. "Nigel Gould's Album Reviews - Reviews, Music & Gigs". Belfasttelegraph.co.uk. 2009-01-16. Cyrchwyd 2011-08-08.
  3. "...there’s nowt as dear as folk – especially when played with the grace, daring and sheer joy this multi- instrumental five-piece bring to a winning selection of reels, jigs and hornpipes. Shake a leg. In fact, shake several."
  4. Shelley, Jim (2009-01-08). "This week's new albums: J Tillman, The Bee Gees, Calan, Judith Owen and Mudvayne". mirror.co.uk. Cyrchwyd 2011-08-08.