Y Caledoniaid (Lladin: Caledonii), neu Gynghrair y Caledoniaid, yw'r enw a roddir gan haneswyr i grŵp o drigolion brodorol yr Alban yn ystod y cyfnod Rhufeinig.[1] Mae Peter Salway yn ystyried eu bod yn gymysgedd o'r Pictiaid lleol a Brythoniaid oedd wedi ffoi o'r ardaloedd i'r de oedd wedi eu goresgyn gan y Rhufeiniaid.

Llun o'r 19eg ganrif o Calgacus yn traddodi ei araith i fyddin y Caledoniaid cyn Brwydr Mons Graupius.

Daeth enw'r cynghrair o enw un o'r llwythau, y Caledonii. Roeddynt yn elyniaethus i'r Rhufeiniaid. ac ymladdasant yn eu herbyn lawer gwaith. Yn 83 neu 84 ymladdwyd Brwydr Mons Graupius rhwng y Caledoniaid dan Calgacus a'r Rhufeiniaid dan Gnaeus Julius Agricola. Canlyniad y frwydr yma oedd buddugoliaeth ysgubol i'r Rhufeiniaid.

Yn 180 cymerasant ran mewn ymosodiad ar dalaith Rufeinig Britannia, gan dorri trwy Mur Hadrian, a chymerodd rai blynyddoedd i'w gyrru allan. Yn 197 mae Dio Cassius yn cofnodi iddynt ymosod eto, gyda chymorth llwyth y Maeatae a'r Brigantes. Yn 209, dywedir iddynt ildio i'r ymerawdwr Septimius Severus wedi iddo ef arwain ymgyrch i'r gogledd o Fur Hadran. Ymosodasant eto yn 210, a gyrrwyd mab Severus, Caracalla, ar ymgyrch i'w cosbi.

Yn 305, arweiniodd Constantius Chlorus ymgyrch yn y gogledd, a chofnodir iddo ennill buddugoliaeth fawr dros y Caledoniaid ac araill.

Cyfeiriadau golygu

  1. Encyclopaedia Romana. University of Chicago. Adalwyd: Mawrth 1, 2007