Franchise cyfres o gemau fideo antur person-cyntaf a ddatblygwyd gan nifer o gwmniau, ac a enillodd un o brif wobrau Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn yn 2003 yw Call of Duty; dyma brif wobr y diwydiant gemau fideo, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau (Game Developers Conference (GDC)). Datblygwyd y gêm gan Infinity Ward (2003–presennol), Treyarch (2005–presenn) a Sledgehammer Games (2011–presennol). Y datblygwr gwreiddiol oedd Infinity Ward a'r cyhoeddwr oedd Activision.

Call of Duty
Enghraifft o'r canlynolcyfres o gemau fideo Edit this on Wikidata
CyhoeddwrActivision Publishing Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Hydref 2003, 7 Tachwedd 2003 Edit this on Wikidata
Genresaethwr person-1af, third-person shooter Edit this on Wikidata
Prif bwncyr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.callofduty.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Codiwyd y feddalwedd yn wreiddiol ar gyfer Microsoft Windows, ac ehangwyd i lwyfan y consol. Ehangwyd hefyd o ran lleoliad y gemau - gyda'r gemau gwreiddiol yn cymryd lle yn yr Ail Ryfel Byd, a'r gemau diweddaraf wedi'u lleoli yn y dyfodol e.e. Call of Duty 4: Modern Warfare.

Er mai Infinity Ward, Treyarch a Sledgehammer yw'r prif ddatblygwyr mae cwmniau eraill hefyd wedi cynorthwyo, gan gynnwys: Gray Matter Interactive, Nokia, Exakt Entertainment, Spark Unlimited, Amaze Entertainment, n-Space, Aspyr, Rebellion Developments, Ideaworks Game Studio, ac nStigate Games. O ran peiriant, defnyddir id Tech 3, Treyarch NGL a'r IW engine.

Erbyn Chwefror 2016 gwerthodd y gyfres Call of Duty dros 250 miliwn o gopiau[1] ac roedd yr incwm dros 15 biliwn US$.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Activision Blizzard Announces Fourth Quarter and Full Year 2015 Financial Results". Business Wire. 11 Chwefror 2016. Cyrchwyd December 7, 2016.