Uned i fesur egni neu wres yw'r calori sy'n cyfateb i'r gwres angenrheidiol i godi un radd Celsius ar dymheredd gram o ddŵr (calori fechan[1] neu galori gram)[2] neu un radd Celsius ar dymheredd cilogram o ddŵr (calori fawr,[1] cilocalori,[3] neu mewn nodiant gwyddonol Calori) a hynny ar fesur un gwasgedd atmosfferig safonol.[2]

Calori
Enghraifft o'r canlynoluned o ynni, uned sy'n deillio o UCUM Edit this on Wikidata

Ers 1925 diffinnir y calori yn nhermau'r uned SI am egni, y joule; ym 1948 penderfynwyd taw tua 4.2 joule yw gwerth un calori. Gall y gwres a gynrychiolir gan y calori amrywio cymaint ag un y cant ar wahanol dymhereddau, ac felly mae'n rhaid diffinio'r tymheredd ar gyfer gwresogi'r dŵr. Gan hynny, diffinid y calori fechan neu'r calori 15° fel y gwres sydd angen i godi tymheredd gram o ddŵr o 14.5° i 15.5 °C, sy'n hafal i 4.1855 joule. Weithiau ceir hefyd y calori 20° (4.18190 joule) sy'n codi tymheredd gram o ddŵr o 19.5° i 20.5 °C; a'r calori cymedrig (4.19002 joule), sef un y cant o'r gwres sydd angen i godi tymheredd gram o ddŵr o 0° i 100 °C.[2]

Defnyddir y galori fawr neu'r cilocalori yn aml mewn maetheg i gynrychioli gwerth bwyd arbennig fel cynhyrchydd egni, hynny yw y maint o fwyd sy'n angenrheidiol i gynhyrchu'r gyfryw uned.[1] Cynnig gan nifer o arbenigwyr yw i ddefnyddio'r cilojoule yn lle'r cilocalori wrth drin a thrafod gwerth egni bwyd, gan gysoni arferion y maes gwyddor bwyd gyda'r gwyddorau eraill sydd yn defnyddio unedau SI. Yn ôl y Pwyllgor ar Gyfundrefn Enwau, Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Maeth, mae un cilocalori yn hafal i 4.184 cilojoule, ar sail cilocalori sy'n codi tymheredd cilogram o ddŵr o 14.5° i 15.5 °C. Defnyddir y cilocalori a'r cilojoule ill dau gan lywodraethau a chwmnïau bwyd ar eu cynnyrch ar draws y bwyd, ond y calori fawr yw'r uned a ddefnyddir amlaf i fesur egni bwyd.[2]

Mae dwy uned arall o egni gwres sy'n dwyn yr enw calori. Defnyddir y calori Tabl Rhyngwladol mewn tablau sy'n dangos priodweddau ager. Ei ddiffiniad gwreiddiol yw 1/860 watt-awr rhyngwladol, sy'n hafal i 4.1868 joule. Defnyddir y calori thermocemegol mewn maes thermocemeg i fesur cynhwysedd gwres, gwres cudd, a gwres adwaith. Mae'n hafal i 4.184 joule.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  calori. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) calorie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2015.
  3.  cilocalori. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2015.