Camlas ddofn ar Isthmws Corinth yng nghanolbarth Gwlad Groeg yw Camlas Corinth. Mae'n cysylltu Gwlff Saronica i'r de a Gwlff Corinth i'r gogledd ac yn gwahanu'r Peloponnesos oddi wrth Attica. Fe'i henwir ar ôl dinas Corinth, sy'n sefyll yn agos iddi.

Camlas Corinth
Mathcamlas i longau Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1893 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCorinthia Regional Unit Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.9347°N 22.9839°E Edit this on Wikidata
Hyd6.343 metr Edit this on Wikidata
Map
Llong yn mynd trwy Gamlas Corinth.

Adeiladwyd y gamlas, sy'n 6.3 km o hyd, rhwng 1881 ac 1893. Gyda lled o ddim ond 21m mae'n rhy gul i longau cargo modern ond mae llongau twristaidd yn ei defnyddio'n aml; mae tua 11,000 o longau'n mynd trwyddi bob blwyddyn.

Roedd yr hen Roegiaid yn arfer llusgo llongau dros yr isthmws. Meddylwyd am greu camlas mor gynnar ag oes Periander. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig gwnaethpwyd arolwg o'r isthmws i'r perwyl hwnnw ar orchymyn Caligula ac aeth Nero mor bell ag i ddechrau ar y gwaith yn 67, gan ddefnyddio 6000 o garcharorion Iddewig a anfonwyd gan Vespasian o Judaea. Gorfu iddo adael y gwaith pan dorrodd allan gwrthryfel Vindex yng Ngâl.