Camlas Panama

camlas enfawr ym Mhanama

Camlas 82 km (51 millt) yn Panama yw Camlas Panama (Sbaeneg: Canal de Panamá) sy'n cysylltu Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel. Fe'i crewyd er mwyn masnachu drwy longau cludo nwyddau. O ran peirianneg, mae'n un o'r prosiectau mwyaf ac anoddaf erioed, gyda llwybr tarw Camlas Panama yn lleihau'r amser i longau deithio rhwng cefnforoedd yr Iwerydd a'r Môr Tawel yn fawr, gan eu galluogi i osgoi llwybr hir a pheryglus Cape Horn o amgylch y rhan mwyaf deheuol o Dde America.

Camlas Panama
Mathcamlas i longau Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol15 Awst 1914 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeven Wonders of the Modern World Edit this on Wikidata
SirTalaith Panamá, Panamá Oeste Province, Talaith Colón Edit this on Wikidata
GwladBaner Panama Panama
Uwch y môr26 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.08°N 79.68°W Edit this on Wikidata
Hyd82 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Cynllunau Camlas Panama a Chamlas Nicaragwa (yr olaf heb ei adeiladu)

Ceir locs ar bob pen sy'n codi llongau i fyny i Lyn Gatun, sef llyn artiffisial a grëwyd i leihau faint o waith cloddio sy'n ofynnol ar gyfer y gamlas, 26 m (85 tr) uwch lefel y môr, ac yna gostyngir y llongau yn y pen arall. Adeiladwyd trydydd lôn ehangach o lociau rhwng Medi 2007 a Mai 2016. Dechreuodd y ddyfrffordd estynedig weithredu'n fasnachol ar 26 Mehefin 2016. Mae'r cloeon newydd yn caniatáu cludo llongau New Panamax, llongau llawer mwy. Ceir hefyd dau grŵp o lociau ochr arfordir y Cefnfor Tawel ac un ochr arfordir Cefnfor Iwerydd gyda drysau dur enfawr yn pwyso 745 tunnell ar loc Gatún. Ond o ganlyniad i'w hadeiladwaith crefftus gellir eu hagor gan beiriant 30 kW (40 marchnerth). Ceir nifer o lociau ar y gamlas, ond maent i gyd mewn parau er sicrhau y gall y llongau fynd trwy'r gamlas i'r ddau gyfeiriad heb orfod colli gormod o amser.[1]

Mae'r gamlas yn mynd trwy Lyn Gatún sydd 26m yn uwch na lefel y môr, ac mae lefel y Cefnfor Tawel yn 24 cm yn uwch na lefel Cefnfor Iwerydd, ac mae llanw'r Cefnfor Tawel yn fwy hefyd.

Mae traffig blynyddol y gamlas wedi codi o tua 1,000 o longau ym 1914, pan agorodd y gamlas, i 14,702 o longau yn 2008, a chyfanswm o 333.7 miliwn o dunelli Camlas Panama / System Mesur Cyffredinol (PC / UMS).[2] Erbyn 2012, roedd mwy na 815,000 o gychod wedi pasio trwy'r gamlas. Yn 2017 cymerodd 11.38 awr ar gyfartaledd i longau basio rhwng dau loc y gamlas.[3] Mae Cymdeithas Peirianwyr Sifil America wedi graddio Camlas Panama yn un o saith rhyfeddod y byd modern.[4]

Hanes golygu

Am fod hi'n beryglus mynd o gwmpas yr Horn yn Ne America, roedd pobl wedi bod eisiau camlas dros culdir Panama ers blynyddoedd, ond dim ond yn y 1820au y daeth hynny i ymddangos yn bosib. Roedd pobl yn ystyried camlas ar draws Nicaragwa hefyd, ond nid adeiladwyd camlas o'r fath. Y cofnod cynharaf yn ymwneud â chamlas ar draws y tir dan sylw a elwir yn '"Guldir Panama" oedd ym 1534, pan orchmynnodd Siarl V, Ymerawdwr Glan Rufeinig a Brenin Sbaen, arolwg ar gyfer llwybr trwy'r America er mwyn hwyluso'r fordaith i longau sy'n teithio rhwng Sbaen a Pheriw. Roedd y Sbaenwyr yn ceisio ennill mantais filwrol dros y Portiwgaliaid.[5]

Llwyddodd Ferdinand de Lesseps, peiriannydd o Ffrainc adeiladu Camlas Suez yn yr Aifft, ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 1 Ionawr, 1880. Ond yn wahanol i'r Aifft lle roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn diffeithdir, roedd yn rhaid cloddio cerrig mewn coedwig law a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ag afiechydon trofannol megis clefyd melyn a malaria a bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.[6][7]

Beth bynnag, roedd Theodore Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad—am resymau milwrol yn ogystal â rhai economaidd. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o Colombia, a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym 1903, ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol; rhoddwyd Camlas Panamá a'r ardal cyfagos i'r Unol Daleithiau ar 23 Chwefror, 1904 am gyfnod amhenodol.[8] Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, 18 Tachwedd, 1903).[9] Hyd yn oed yn 2021, gwelai lawer o frodorion Panema hyn fel cam gwag a oedd yn bygwth sofraniaeth y wlad.[10][11]

Yn ystod yr adeiladu, bu arbenigwyr o'r Unol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, John Findlay Wallace, nad oedd yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, John Stevens, ond fe ymddiswyddodd yntau ym 1907. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwr Americanaidd George Washington Goethals.

Cynllun de Lesseps oedd adeiladu camlas ar lefel y môr, ond methodd a datrys problem yr Afon Chagres a oprlifai'n aml yn ystod y tymor glaw. Felly cynlluniodd Stevens gamlas gyda lociau, gan adeiladu argae enfawr dros yr Afon Chagres ger Gatún. Defnyddir y llyn enfawr, a grewyd o ganlyniad, i gynhyrchu trydan—ac i'w groesi ar long. Felly mae traean y gamlas yn daith ar hyd lyn artiffisial. Camp enfawr oedd cloddio ffordd trwy wahanfa ddŵr ger Culebra (Toriad Caillard erbyn hyn). Daeth gwaith adeiladu'r gamlas i ben ar y degfed o Hydref, 1913, pan ffrwydrwyd Gamboa Dike gan yr Arlywydd Woodrow Wilson mewn seremoni swyddogol.

Roedd llawer o weithwyr o India'r gorllewin yn gweithio ar greu'r gamlas, a bu o leiaf 5,609 ohonyn farw wrth eu gwaith.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llongau rhyfel yr Unol Daleithiau yn mynd trwy'r camlas i'r Môr Tawel a roedd Cylchfa'r Gamlas o dan reolaeth yr Unol Daleithiau hyd i 31 Rhagfyr, 1999. Daeth rheolaeth yr Unol Daleithiau ar ben yn ganlyniad i Gytundeb Torrijos-Carter (a arwyddwyd ym 1977 gan yr Arlywydd Jimmy Carter) oedd yn rhoi'r gamlas o dan reolaeth Panamá.

Llyn Gatun golygu

 
Mae Llyn Gatun yn darparu'r dŵr a ddefnyddir i godi a gostwng llongau yn y Gamlas, dŵr sy'n llifo drwy ddisgyrchiant i bob set o lociau.

Creewyd y llyn yn 1913 trwy godi argae ar draws Afon Chagres. Mae Llyn Gatun yn rhan allweddol o Gamlas Panama, gan ddarparu'r miliynau o litrau o ddŵr sy'n angenrheidiol i weithredu'r locs bob tro y mae llong yn mynd trwodd. Ar adeg ei ffurfio, Llyn Gatun oedd y llyn mwyaf yn y byd o waith dyn. Y fforest law amhosibl o amgylch y llyn fu'r amddiffyniad gorau i Gamlas Panama. Heddiw mae'r coedwigoedd hyn yn parhau i fod yn ardaloedd heb ymyrraeth ddynol ac maent yn un o'r ychydig ardaloedd hygyrch lle gellir gweld amryw o rywogaethau brodorol o anifeiliaid a phlanhigion Canol America heb darfu arnynt yn eu cynefin naturiol.

Yr ynys fwyaf ar Lyn Gatun yw Ynys Barro Colorado. Fe'i sefydlwyd ar gyfer astudiaeth wyddonol pan ffurfiwyd y llyn, ac mae'n cael ei weithredu gan y Sefydliad Smithsonian. Tarddodd llawer o ddarganfyddiadau gwyddonol a biolegol pwysig o'r deyrnas anifeiliaid a phlanhigion trofannol yma. Mae Llyn Gatun yn gorchuddio tua 470 km2 (180 metr sgwâr), parth ecolegol trofannol helaeth a rhan o Goridor Coedwig yr Iwerydd. Mae ecodwristiaeth ar y llyn wedi dod yn ddiwydiant i Banamaniaid.

Mae Llyn Gatun yn darparu dŵr yfed ar gyfer Dinas Panama a Colón. Pysgota yw un o'r prif weithgareddau hamdden ar Lyn Gatun. Cyflwynwyd y cichia anfrodorol ar ddamwain i Lyn Gatun tua 1967 gan ddyn busnes lleol, ac ers hynny maent wedi ffynnu i ddod yn brif bysgod hela yn Llyn Gatun.[12][13]

Gelwir y pysgodyn hwn yn "Sargento" yn lleol a chredir mai dyna'r rhywogaeth Cichla pleiozona, iddynt darddu o fasnau afonydd Amazon, Rio Negro, ac Orinoco, lle maen nhw'n cael eu hystyried yn brif bysgod o ran pysgota.[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. Zamorano, Juan; Martinez, Kathia (26 Mehefin 2016). "Panama Canal opens $5B locks, bullish despite shipping woes". The Big Story. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2016. Cyrchwyd 6 Mawrth 2017.
  2. "Panama Canal Traffic—Years 1914–2010". Panama Canal Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-30. Cyrchwyd 2011-01-25.
  3. "Annual Report 2017" (PDF). Panama Canal Authority. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2021-04-03. Cyrchwyd 2021-04-02.
  4. "Seven Wonders". American Society of Civil Engineers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-02. Cyrchwyd 2011-02-21.
  5. "A History of the Panama Canal: French and American Construction Efforts". Panama Canal Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-15. Cyrchwyd 2007-09-03.; Chapter 3, Some Early Canal Plans Archifwyd 2015-01-02 yn y Peiriant Wayback.
  6. McCullough 1977, t. 125.
  7. Cadbury, Deborah (2003). Seven Wonders of the Industrial World. London and New York: Fourth Estate. tt. 252–260.
  8. "Avalon Project—Convention for the Construction of a Ship Canal (Hay-Bunau-Varilla Treaty), November 18, 1903". Avalon.law.yale.edu. Cyrchwyd 2010-10-24.
  9. Livingstone, Grace (2009). America's Backyard : The United States and Latin America from the Monroe Doctrine to the War on Terror. London: Zed. tt. 13. ISBN 9781848132146.
  10. "September 07, 1977 : Panama to control canal". History.com. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-10. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
  11. Lowe, Vaughan (28 Medi 2007). International Law. Oxford University Press. t. 66. ISBN 9780191509070. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
  12. Zaret, Thomas M.; Paine, R.T. (2 Tachwedd 1973). "Species Introduction in a Tropical Lake". Science 182 (4111): 449–455. Bibcode 1973Sci...182..449Z. doi:10.1126/science.182.4111.449. PMID 17832455. https://archive.org/details/sim_science_1973-11-02_182_4111/page/449.
  13. "Peacock Bass: Fun to Catch, Fine to Eat". Panama Canal Review: 11. Chwefror 1971. https://archive.org/stream/panamacanalrevie1971pana#page/11/mode/1up. Adalwyd 2012-04-30.
  14. "Gatun Lake Peacock Bass Fishing Charters". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 2012-04-30.

Dolen allanol golygu