Mae Canberra (Ngunnawaleg: Ngambri) yn brifddinas Awstralia, gyda phoblogaeth o dros 340,000 o bobl. Dyma'r wythfed ddinas fwyaf yn Awstralia. Lleolir y ddinas ar ran ogleddol Tiriogaeth Awstralia, 280 km (170 milltir) i'r de-orllewin o Sydney a 600 km (410 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Melbourne. Dewiswyd lleoliad Canberra fel prifddinas y wlad fel cyfaddawd rhwng Sydney a Melbourne, dwy ddinas fwyaf Awstralia. Mae'r ddinas yn anghyffredin ymhlith dinasoedd Awstralia, am ei bod yn ddinas a gynlluniwyd ac a adeiladwyd am bwrpas. Yn sgîl cystadleuaeth rhyngwladol am gynllun y ddinas, dewiswyd cynllun gan benseiri o Chicago, Walter Burley Griffin a Marion Mahony Griffin, a dechreuwyd ar y broses adeiladu ym 1913. Dylanwadwyd cynllun y ddinas yn fawr gan y mudiad gerddi'r ddinas a oedd yn cynnwys ardaloedd helaeth o dyfiant naturiol ac felly mae gan Canberra y teitl fel "prifddinas y gwylltdiroedd". Er i'r Rhyfeloedd Byd a'r Dirwasgiad Mawr rwystro datblygiad Canberra, datblygodd yn ddinas ffynniannus ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Canberra
Mathdinas, prifddinas, dinas fawr, political city Edit this on Wikidata
Poblogaeth381,488 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Nara, Beijing, Dili, Dinas Wellington, Brasília, Yangzhou, Monterrey, Hangzhou Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanberra - Queanbeyan Edit this on Wikidata
SirTiriogaeth Prifddinas Awstralia Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd471.78 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr578 metr Edit this on Wikidata
GerllawLake Burley Griffin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.2931°S 149.1269°E Edit this on Wikidata
Cod post2600–2617 Edit this on Wikidata
Map

Fel canolbwynt llywodraeth Awstralia, lleolir y Senedd-dy, Uchel Lys Awstralia a nifer o adrannau ac asiantaethau llywodraethol yno. Yno hefyd y lleolir nifer o sefydliadau cymdeithasol a diwylliannol o arwyddocad sylweddol, megis Cofeb Ryfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Amgueddfa Genedlaethol Awstralia a Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Y llywodraeth ffederal sy'n cyfrannu'r canran fwyaf o Gynnyrch Cyfansymiol y Dalaith a nhw yw'r cyflogwyr unigol fwyaf yng Nghanberra.

Diwylliant golygu

Y celfyddydau ac adloniant golygu

Ceir nifer o gofebau a sefydliadau hanesyddol yng Nghanberra megis Cofeb Rhyfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Oriel Darluniau Awstralia, Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Archifdy Cenedlaethol Awstralia, Academi Gwyddoniaeth Awstralia ac Amgueddfa Genedlaethol Awstralia. Mae nifer o adeiladau llywodraeth y Gymanwlad ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys y Senedd-dy, yr Uchel Lys a Mint Frenhinol Awstralia. Lleolir Cofen Captain Hook wrth Lyn Burley Griffin a'r Carillon Cenedlaethol. Ymysg y llefydd eraill o ddiddordeb mae Tŵr y Mynydd Du a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Awstralia ar y Mynydd Du, y Sŵ a'r Acariwm Cenedlaethol ar Argae Scrivener, Amgueddfa Cenedlaethol y Deinasoriaid a Questacon - Canolfan Dechnoleg a Gwyddoniaeth Naturiol.

 
Mae Amgueddfa Genedlaethol Awstralia a sefydlwyd yn 2001 yn olrhain hanes cymdeithasol Awstralia ac mae'r adeilad yn un o adeilad mwyaf pensaernïol feiddgar yng Nghanberra
 
Y Shine Dome
  Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.