Cannabis indica
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Rosales
Teulu: Cannabaceae
Genws: Cannabis
Rhywogaeth: C. indica
Enw deuenwol
Cannabis indica
Lam.

Planhigyn unflwydd yn nheulu'r Cannabaceae yw Cannabis indica, a adnabuwyd gynt fel Cannabis sativa forma indica sy'n aelod tybiedig o'r tylwyth Canabis; aelod arall o'r teulu hwn yw Cannabis sativa.

Tyfu golygu

Tyfir planhigion Cannabis indica llydanddail yn India, Affganistan, Bangladesh a Pacistan er mwyn cynhyrchu hashish. Yn gemegol, mae'r math hwn yn llawer cryfach o ran y cyffur sydd ynddo na C. sativa: hy mae'r lefel o CBD yn uwch.[1] Ond mae yna fath masnachol o indica a fagwyd yn fwriadol er mwyn cael lefel uchel o CBD. Disgrifir y wefr a geir o gymryd Cannabis indica fel "body buzz" ac mae'n gryn effeithiol fel cyffur i atal poen neu ar gyfer anhwylder fel diffyg cwsg.

Ymhlith y bridiau o indica a fagwyd ar gyfer difyrrwch neu feddygol y mae Kush a Golau'r Gogledd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Fischedick, Justin Thomas; Hazekamp, Arno; Erkelens, Tjalling; Choi, Young Hae; Verpoorte, Rob (Rhagfyr 2010). "Metabolic fingerprinting of Cannabis sativa L., cannabinoids and terpenoids for chemotaxonomic and drug standardization purposes". Phytochemistry 71 (17-18): 2058–2073. doi:10.1016/j.phytochem.2010.10.001. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21040939. Adalwyd 30 May 2015.