Cannoedd Duon

Mudiad Rwsiaidd frenhinol ac adweithiol

Cannoedd Duon neu Cant Du (Rwsieg: Чёрная сотня; Tschornaja sotnja) oedd y term cyffredinol am sefydliadau eithafol asgell dde a brenhinol-genedlaetholgar yn ystod degawdau olaf bodolaeth Ymerodraeth Rwsia, gan gynnwys Undeb y Bobl Rwsiaidd (a elwir hefyd yn y Cymdeithas y Bobl Rwseg). Ymddengys i'r enw ddod o'r cysyniad Oesoedd Canol o "du" i ddynodi'r bobl gyffredin, y werin bobl (hynny yw, nid uchelwyr), a ddrefbwydyn fmilstia.[1] Baner y mudiad oedd baner trilliw llorweddol, du-melyn-gwyn.

Cannoedd Duon
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol, terrorist group Edit this on Wikidata
IdiolegRussian nationalism, monarchism, anti-Ukrainian sentiment, Gwrth-Semitiaeth, Great Russian chauvinism, Christian nationalism, Gwrth-gomiwnyddiaeth, counter-revolutionary Edit this on Wikidata
Daeth i ben1917 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1905 Edit this on Wikidata
GwladwriaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorymdaith gan y Cannoedd Duon yn Odesa wedi cyhoeddi Maniffesto Hydref yn 1905 oedd yn ymateb i'r Chwyldro y flwyddyn honno

Athroniaeth golygu

Roedd ideoleg y mudiad yn seiliedig ar slogan a luniwyd gan Iarll Sergey Uvarov, "Uniongrededd, Awtocratiaeth, a Chenedligrwydd" (Pravoslaviye, Samodershaviye i Narodnost).

Roedd aelodau'r sefydliadau hyn yn cael eu hadnabod fel Cannoedd Duon (Rwseg lluosog: черносотенцы; chernootenzy) dynodedig. Mae'r sefydliadau wedi'u neilltuo i ffenomen cyn-ffasgaeth.

Roeddynt yn gefnogwyr pybyr o'r Tsar a theulu'r Romanoff frenhinol.[2]

Y sefydliadau gwyliadwrus a gefnogwyd gan yr awdurdodau tsaraidd oedd prif symbylwyr pogromau gwrth-Semitaidd[3] a gwrth-Wcreineg[4] a braw yn erbyn chwyldroadwyr, yn enwedig rhwng 1904 a 1906. Roeddent yn perthyn i fudiadau cenedlaetholgar modern Ewrop.

Y Cannoedd Duon ac Wcráin golygu

Roedd y Cannoedd Duon yn dosbarthu Wcreiniaid fel Rwsiaid,[5] ac yn denu cefnogaeth llawer o "Moscowphiliaid" a oedd yn ystyried eu hunain yn Rwsiaidd ac yn gwrthod cenedlaetholdeb a hunaniaeth Wcráin.[6] Ymgyrchodd y mudiad Cannoedd Duon yn frwd yn erbyn yr hyn a ystyriai yn ymwahaniaeth yn yr Wcráin, yn ogystal ag yn erbyn hyrwyddo diwylliant ac iaith Wcreineg yn gyffredinol, ac yn erbyn gweithiau'r bardd Taras Shevchenko o'r Wcráin, yn arbennig.[7] Yn Odesa, caeodd y Cannoedd Duon gangen leol y gymdeithas Prosvita yn yr Wcráin, sefydliad a oedd yn ymroddedig i ledaenu llythrennedd yn yr Wcreineg ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol Wcráin.[6]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "languagehat.com : BLACK HUNDREDS". languagehat.com.
  2. Norman Cohn, Warrant for Genocide, pp. 61, 73, 89, 120–2, 134, 139, 251.
  3. A People Apart: The Jews in Europe, 1789–1939, by David Vital, Oxford University Press, 1999 (pp. 140, 141).
  4. Ukraine and Russia in Their Historical Encounter, by Peter J. Potichnyj, University of Alberta, Canadian Institute of Ukrainian Studies Press, 1992 (pp. 576, 582, 665).
  5. Jacob Langer. (2007) Corruption and the Counterrevolution: The Rise and Fall of the Black Hundred History Dissertation, Duke University. pg.19
  6. 6.0 6.1 Encyclopedia of Ukraine. Black Hundreds University of Toronto, Canadian Institute of Ukrainian Studies.
  7. Украинская Жизнь. — М., 1912. — № 5 — С. 82.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.