Canolfan Cymry Llundain

Canolfan ddiwylliannol a chelfyddydol yng nghanol Llundain yw Canolfan Cymry Llundain a sefydlwyd yn 1920 gyda'r enw 'Cymdeithas Cymru Ifanc' (Young Wales Association).

Canolfan Cymry Llundain
Mathsefydliad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.525093°N 0.117111°W Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganMargaret Lloyd George Edit this on Wikidata
Logo Canolfan Cymry Llundain

Mae wedi'i leoli yn Gray's Inn Road, Bwrdeistref Llundain Camden. Cynhelir ystod eang o ddigwyddiadau sy'n denu pobl o bob tras a chefndir. Perchennog y ganolfan yw'r London Welsh Trust. Un o'i sefydlwyr oedd Margaret Lloyd George.

Mae'r ganolfan yn gartref i nifer o gorau ac yn cynnig gwersi Cymraeg i ddysgwyr ar bob lefel. Mae'n ganolbwynt pwysig i Gymry Llundain ac yn fodd o hybu Cymru a'i diwylliant i gynulleidfaoedd ehangach, gan gynnwys y gymuned leol.

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu