Caer Rufeinig yn Britannia oedd Canovium, sydd heddiw wedi'i lleoli ym mhentref Caerhun, Sir Conwy. Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon). Saif ar lan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tŷ'n-y-groes a Dolgarrog ar y B5106, a gerllaw man lle gellir rhydio'r afon. Mae'n 24 milltir o Segontium, taith diwrnod i droedfilwyr Rhufeinig.

Canovium
Mathcaer Rufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2161°N 3.8341°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN001 Edit this on Wikidata
Safle baddondy Canovium
Cynllun baddondy Caerhun a wnaethpwyd pan gloddiwyd y safle yn 1807

Disgrifiad golygu

Nid oes lawer yn weddill o'r gaer, ond gellir gweld olion y muriau allanol. Mae'n dilyn y patrwm Rhufeinig arferol, yn sgwar gyda phob ochr tua 410 troedfedd o hyd. Mae'r eglwys a'r fynwent bresennol yn gorchuddio un gornel o'r gaer. Cafwyd hyd i deilsen gyda'r stamp LEG XX V, ac yn 1801 cafodd Samuel Lysons hyd i faddondy 39 medr o hyd i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer.

Saif Eglwys y Santes Fair, Caerhun, yng nghornel y gaer.

Hanes a thraddodiad golygu

Adeiladwyd y gaer tua 75 - 77 O.C., yr un adeg a Segontium. Efallai ei bod wedi ei hadeiladu gan Agricola yn ystod ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid. Pren oedd yr adeiladau ar y cychwyn, a'r mur allanol o glai. Yn yr 2g, ail-adeiladwyd y gaer a cherrig. Credir bod y garsiwn yn Cohors Peditata Quingenaria, tua 500 o filwyr traed. Ymddengys fod y gaer yn parhau i gael ei defnyddio yn y 4g, oherwydd cafwyd hyd i ddarn arian a delw yr ymerawdwr Gratianus (375-383). Tu allan i'r gaer yr oedd vicus, neu bentref. Heblaw bod ar y ffordd rhwng Deva a Segontium, roedd ffordd Rufeinig arall, Sarn Helen, yn cychwyn yma ac yn arwain tua'r de i Maridunum (Caerfyrddin) gyda changen yn troi am Eryri i gysylltu Caerhun a Bryn-y-Gefeiliau (ger Capel Curig).

Mae traddodiad llên gwerin yn cysylltu'r gaer â Rhun (fl. OC 550) fab Maelgwn Gwynedd.

Cadwraeth golygu

Mae'r safle Rufeinig hon yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: CN001.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
  • Willoughby Gardner, "The Roman Fort at Caerhun", Archaeologia Cambriensis 80:2 (1925)

Cyfeiriadau golygu


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis