Am y Cantref Mawr ym Mrycheiniog, gweler Tewdos.

Roedd y Cantref Mawr yn gantref yn ne-orllewin Cymru. Roedd o bwysigrwydd strategol mawr yn y Canol Oesoedd oherwydd mai yma yr oedd prif ganolfan tywysogion Deheubarth, sef Dinefwr. Ei ganolfan grefyddol oedd Abaty Talyllychau.

Cantref Mawr

Roedd pob cantref wedi ei rannu i unedau llai, y cwmwd. Fel rheol byddai dau neu dri cwmwd mewn cantref, ond roedd y Cantref Mawr yn cynnwys saith cwmwd ac yn un o'r cantrefi mwyaf yng Nghymru. Roedd yn ardal fynyddig rhwng Afon Tywi, Afon Teifi ac Afon Gwili. Yn y cyfnod hwn roedd coedydd yn gwneud ymosod ar y cantref yma yn anodd, ac felly byddai'n noddfa i dywysogion Deheubarth pan ymosodid arnynt.

Gyda'r Cantref Bychan ffurfiai'r Cantref Mawr arglwyddiaeth Ystrad Tywi. Collwyd meddiant ar y Cantref Mawr gan dywysogion Deheubarth yn 1277 a daeth yn rhan o'r Sir Gaerfyrddin newydd.

Cymydau'r Cantref Mawr golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Lloyd, J.E. (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longman, Green & Co.)