Capel Gwyn, Ynys Môn

pentref ar Ynys Môn

Pentref bychan yng nghymuned Bryngwran ar Ynys Môn yw Capel Gwyn. Fe'i lleolir yng ngorllewin yr ynys tua milltir i'r de o'r A5 tua hanner ffordd rhwng Caergybi a Llangefni. Mae 134.1 milltir (215.8 km) o Gaerdydd a 219.4 milltir (353.1 km) o Lundain.

Capel Gwyn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2516°N 4.4764°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Tua 2 filltir i'r gorllewin ceir Gwlyptiroedd y Fali.

Hanes a hynafiaethau golygu

 
Yr hen gapel, Capel Gwyn

Mae'r capel yn y pentref, a godwyd yn 1905, yn wag ac yn mynd yn adfail.

Ceir siambr gladdu Tŷ Newydd i'r de, ar y ffordd i Llanfaelog.

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato