Capel Gwynfe

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yng nghymuned Llangadog, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Capel Gwynfe[1][2] neu Gwynfe. Saif mewn dyffryn yn ne-ddwyrain y sir, rhwng Trichrug a llethrau gorllewinol y Mynydd Du, i'r gorllewin o lôn yr A4069, tua hanner ffordd rhwng Brynaman i'r de a Llangadog i'r gogledd. Mae'r ardal yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Capel Gwynfe
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN722219 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Enwogion golygu

  • Beriah Gwynfe Evans (1848–1927). Treuliodd y llenor ac ymgyrchydd gwleidyddol hwn ran helaeth o'i oes yng Ngwynfe, a mabwysiadodd enw'r pentref yn enw canol iddo'i hun. Cafodd swydd fel ysgolfeistr yn ysgol y pentref o 1867 hyd 1882, a'i ddilyn gan John Williams o 1882 hyd 1909.[angen ffynhonnell]
  • Syr John Williams. Ganed y casglwr llawysgrifau Cymreig, cymwynaswr mawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ei sefydliad, yn ffermdy'r Beili, yng Ngwynfe yn 1840, a'i fagu ym Mlaenllynant. Roedd yn feddyg geni i'r teulu brenhinol, gan gynnwys genedigaethau dau o frenhinoedd y dyfodol, sef E. F. Edward VIII ac E. F. George VI. Bu'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'i sefydlu yn 1907, a hefyd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1913 tan ei farwolaeth yn 1926.
  • Cafodd tri o genhadwyr mwyaf adnabyddus Cymru'r 19g eu geni yn y pentref, sef William Griffith, David Williams a David Griffiths (Madagasgar; 1792-1863). Cyfieithodd David Griffiths a David Jones y Beibl yn iaith y Malagas, a sefydlwyd yr iaith ysgrifenedig Falagaseg gan David Griffiths, mab Glanmeilwch, Gwynfe; mae ei fedd yng Nghapel y Graig, Machynlleth.

Ffynhonnell golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Chwefror 2022