Caradog o Lancarfan

llenor

Clerigwr Cymreig ac awdur yn yr iaith Ladin oedd Caradog o Lancarfan (bu farw c. 1156). Credir mai ef oedd awdur bucheddau'r seintiau Gildas a Cadog; mae rhai cyfeiriadau ynddynt yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a Glastonbury yn ogystal â Llancarfan.

Caradog o Lancarfan
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1156 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhagiograffydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1135 Edit this on Wikidata

Traddodiad golygu

Mae cyfeiriad ato gan Sieffre o Fynwy yn ei ffug-hanes Historia Regum Britanniae, sef Brut y Brenhinedd (tua 1135); wedi iddo drafod y cyfnod hyd 689 mae'n awgrymu fod Caradog yn ysgrifennu hanes Cymru o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Nid oes tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny. Cysylltir ef ag ysgrifennu Brut y Tywysogion gan rai awduron, ond nid oes tystiolaeth o hyn, ychwaith.

Ar sail y cyfeiriad ato gan Sieffre, lluniodd Iolo Morganwg destun Brut Aberpergwm a'i dadogi ar Garadog o Lancarfan. Cyhoeddwyd y testun yn y Myvyrian Archaiology of Wales a chamarweinwyd nifer o bobl gan y fersiwn Morgannwg-ganolog o hanes Cymru'r Oesoedd Canol a geir ynddo.[1]

Testunau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tt. 3-4.