Hen garchar sydd bellach yn amgueddfa ydy Carchar Rhuthun, ac sy'n adeilad hanesyddol pwysig, Gradd II* (rhif cyfeirnod Cadw: 870).[1] Mae wedi'i leoli yn nhref farchnad Rhuthun, Sir Ddinbych. Rhwng 1654 a 1916 bu'n garchar; rhwng 1926 a 2005 bu'n archifdy, llyfrgell a swyddfeydd y Cyngor Sir lleol ac yn 2005 fe'i trowyd yn amgueddfa ganddynt. Cychwynnwyd adeiladu'r carchar hwn yn 1775, ond bu carchar trefol yn Rhuthun, bron yn yr un lleoliad yn Stryd Clwyd, ers 1654.

Carchar Rhuthun
Mathcarchar, adeilad amgueddfa Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaJohn Jones Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1654 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhuthun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.12°N 3.31°W Edit this on Wikidata
Map

Seiliwyd y cynllun ar Garchar Pentonville, Llundain. Pan geuwyd y carchar yn 1916 trosglwyddwyd y carcharorion i'r Amwythig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr adeilad i drin ffrwydron, cyn ei drosglwyddo'n ôl i'r Cyngor Sir.[2]

Y prif goridor
Un o'r celloedd

Yn 1802 roedd yma bedair cell i garcharorion a naw chell i ddyledwyr. Erbyn 1837 roedd yn dal cyfanswm o 37 carcharor.

Carcharorion enwog golygu

Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn ddigon trist...

Yma hefyd y bu Coch Bach y Bala. Lleidr a photsiwr oedd John Jones (1854 - 1913), ei lysenw oedd 'Coch Bach Y Bala'. Gelwid ef hefyd The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn adnabyddus oherwydd ei ddawn i ddianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.

Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwr (sgweier Euarth) ger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth. Cafwyd ymateb cyhoeddus ffyrnig i hyn gan Gymry lleol. Bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef yn Llanelidan.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Listed Buildings; 'Carchar Rhuthun'; adalwyd 8 Hydref, 2014
  2. Lewis, Alys (8 Mawrth 2010). "Ruthin Gaol". BBC News.