Gofyn neu ddeisyfu ar rywun i roi yw cardota, cardoteiaeth, neu fegera. Gelwir un sydd yn cardota mewn man gyhoeddus er mwyn budd materol ei hunan yn gardotyn/cardotes, cardotwr/cardotwraig, neu'n feger/begeres. Maent yn cardota gan eu bod yn dlawd ac yn y mwyafrif helaeth o achosion yn ddigartref. Gwahaniaethir rhwng cardota a gweithgareddau megis deisyfu rhoddion elusennol, perfformio ar y strydoedd, a gwaith anffurfiol eraill ar y strydoedd.

Cardota
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathperson Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen ddyn yn cardota yn Vancouver, Canada

Mae rhai cardotwyr yn byw bywyd crwydrol gan deithio er mwyn cardota, ac eraill yn aros yn yr un fan neu ardal. Yn yr Unol Daleithiau, gelwir cardotwr sy'n aros yn yr un fan yn bum. Mae trampiaid yn teithio i osgoi gwaith ac yn aml yn cardota.

Gweler hefyd golygu