Carl Ransom Rogers

Seicolegydd dylanwadol o Unol Daleithiau America oedd Carl Ransom Rogers (8 Ionawr, 19024 Chwefror, 1987).

Carl Ransom Rogers
Ganwyd8 Ionawr 1902 Edit this on Wikidata
Oak Park, Illinois Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
La Jolla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wisconsin–Madison
  • Coleg Athrawon
  • Coleg Diwynyddol Union Edit this on Wikidata
Galwedigaethseicotherapydd, seicolegydd, awdur ffeithiol Edit this on Wikidata
SwyddPresident of the American Psychological Association Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadOtto Rank Edit this on Wikidata
PlantNatalie Rogers Edit this on Wikidata
Gwobr/audyneiddiwr, Gwobr APA am Cyfraniadau Gwyddonol Difreintiedig i Seicoleg, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.nrogers.com/index.html Edit this on Wikidata

Dechreuodd Rogers o Illinois ei yrfa fel offeiriad mewn eglwys fechan yn Vermont lle y dysgodd am bwysigrwydd creu perthynas gyda’r unigolyn. Trodd wedyn i ddarlithio yng Ngholeg Athrawon Prifysgol Colombia o dan ddylanwad syniadau John Dewey. Roedd damcaniaeth Rogers wedi tyfu allan o’r profiad fod bodau dynol yn dod i ymddiried yn fwyfwy unwaith y maent yn sylweddoli fod eu profiadau eu hunain yn cael eu parchu a’u deall gan y darlithydd. Roedd wedi nodi nifer o elfennau sy’n hwyluso dysgu sef:

  • Bod yr hwylusydd yn hollol ddidwyll ac yn berson go iawn yn ei berthynas gyda’r myfyrwyr. Hynny yw, nid yw'n ceisio cuddio y tu ôl i ddelwedd ond yn barod i fod eu hunain yn eu perthynas gyda’r myfyrwyr.
  • Gwerthfawrogi a pharchu barn a theimladau’r myfyrwyr ac yn ymddiried ynddynt. Deall adwaith y myfyrwyr o’r tu fewn gan fod yn ymwybodol o’r broses o addysgu o safbwynt y myfyrwyr.
  • Ond mae’n rhaid codi hyder y myfyrwyr yn aml yn ei gallu hwy eu hunain i addysgu eu hunain. Y cam cyntaf i’r cyfeiriad yma yw i ni ystyried fel rydym ni ein hunain wedi dysgu, sef drwy brofiad. Ers yn blant bychain rydym wedi dysgu drwy ein profiadau o fywyd, yn aml drwy’r profiad o wneud camgymeriadau i ddechrau!
  • Mae angen symud i ffwrdd o’r syniad sydd gennym fod y cyfrifoldeb am ein haddysgu yn gorwedd ar ysgwyddau’r darlithydd. Dylem ystyried y darlithydd fel un o’r adnoddau dysgu sydd gyda ni. Mae’r darlithydd yn arbenigedd mewn pwnc, ac mae yn gwybod sut i drefnu profiadau addysgol drwy'r gwersi i hwyluso’r dysgu. Ond yn y diwedd gyda’r myfyrwyr mae’r cyfrifoldeb i addysgu eu hunain.

Dywedodd yn ei lyfr Freedom to Learn (1993) :-

Gallwn ni ddim addysgu person arall yn uniongyrchol, dim ond hwyluso ei dysgu Y sefyllfa addysgol fwyaf effeithlon i hybu’r dysgu yw un lle mae’r “bygythiad” (neu ofn) i’r myfyriwr wedi ei leihau i’r isafswm posib Pan yr hwylusir y gwanhaol ffyrdd o ganfod ym maes profiad y myfyriwr unigol.

Gwaith y darlithydd yn y gyfundrefn hon yw hwyluso’r dysgu drwy greu profiadau addysgiadol. Ond rhaid i’r profiadau yma fod yn berthnasol i’r byd go iawn y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Os nad yw'r myfyrwyr yn gweld fod y gwersi yn berthnasol ni fyddant yn cael eu cymell i ddysgu. Un ffordd o wneud hyn yw drwy gael y myfyrwyr i ddatrys problemau. Mae datrys problemau yn broses weithredol. Pan ydym yn datrys problem mae’n rhaid i ni arbrofi gyda gwahanol atebion, mentro drwy ddewis un ateb fydd efallai yn gweithio. Neu wrth gwrs ambell waith nid oes modd datrys y broblem a rhaid do i dermau a hynny. Yn wahanol i ddysgu traddodiadol, nid oes angen gwerthuso allanol oherwydd rydym yn gwybod pa fo’r broblem wedi ei datrys yn iawn. Er bod yr ateb i broblem arbennig yn gallu cynhyrchu egwyddorion cyffredinol mae problemau fel arfer yn arbennig yn hytrach na haniaethol. Mae’r broses o ddatrys problemau yn canolbwyntio ar y broblem arbennig honno sydd yn berthnasol i’r myfyriwr.